Tân mawr yn cau'r A470 i'r ddau gyfeiriad am gyfnod

Tan mewn iard metel sgrapFfynhonnell y llun, Annaliese Risby
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu galw am 07:00 fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi anfon 11 o gerbydau wrth ymateb i dân mawr ym Mhontypridd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad mewn iard metel sgrap ar Pentrebach Road am 07:00 fore Sadwrn 28 Mawrth.

Cafodd yr A470 ei chau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod oherwydd y mwg ac mae trigolion lleol yn cael eu hannog i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau.

Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael ei anafu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig