Nyrs yng Ngwynedd yn euog o ymosod ar ei chymydog mewn ffrae dros barcio

Mae Sharman, sydd i'w gweld yn y llun yma'n mynd i wrandawiad blaenorol, wedi cael hanes o "ddrwgdeimlad" gyda'i chymdogion clywodd y llys
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs 69 oed wedi ei chael yn euog o ymosod ar ei chymydog mewn ffrae dros barcio.
Roedd Christine Sharman, o Lan Ffestiniog yng Ngwynedd, yn flin bod ei chymdogion wedi parcio yn y stryd y tu allan i'w chartref.
Clywodd Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener ei bod wedi cerdded at ddrws ffrynt ei chymdogion a mynnu eu bod nhw'n symud eu car cyn gwthio ei ffordd i mewn i'r tŷ.
Cafwyd hi'n euog o ymosod ar ei chymydog Jane Jones, ac o ddefnyddio trais i fynd i mewn i'r tŷ.
'Hanes o ddrwgdeimlad'
Clywodd y llys fod yna hanes o "ddrwgdeimlad" rhwng Sharman a'i chymdogion ar draws y ffordd, Alun a Jane Jones, oedd yn aml yn ymwneud â pharcio.
Mae stryd Penybryn yng nghanol Llan Ffestiniog yn stryd gymharol gul, gyda lle i geir barcio ar un ochr yn unig – yr ochr lle mae Sharman yn byw.
Ar 25 Gorffennaf 2025, dywedodd Sharman ei bod yn teimlo dan straen ar ôl i Alun Jones barcio Vauxhall du y tu allan i'w thŷ.
Cafodd Sharman ei ddal ar gamera yn cerdded i fyny'r llwybr at ddrws ffrynt ei chymdogion.
Pan mae Alun Jones yn ateb, mae hi'n cael ei chlywed yn mynnu eu bod nhw'n symud eu car, gan weiddi: "Beth wyt ti'n ei wneud?"
Ond mae'r fideo, a gafodd ei ddangos i'r llys, yn dangos Alun Jones yn gwrthod siarad â hi ac mae'n cau'r drws.
Dywedodd ei wraig Jane Jones wrth y llys ei bod hi wedyn wedi clywed cnoc arall ar y drws a'i bod hi wedi mynd i ateb.
Dywedodd fod Sharman "yn gwthio yn erbyn y drws. Ro'n i'n ceisio cau'r drws, ond roedd hi'n gwthio yn erbyn o gyda'i phwysau i gyd felly allwn i ddim".
"Wnaeth hi gamu i mewn, wnes i fynd yn y ffordd a chefais fy nharo yn y frest gan ei dwrn.
"Ro'n i mewn sioc, do'n i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl."
'Mae gen i hanes hir o wasanaethu fel nyrs'
Dywedodd Sharman wrth y llys mai ei bwriad oedd cael sgwrs dawel gyda'i chymdogion, a'i bod hi'n teimlo dan straen gan fod angen iddi lwytho ei char ar gyfer gwaith, ac roedd eu car nhw'n rhwystro ei mynediad.
Dywedodd: "Mae gen i hanes hir o wasanaethu fel nyrs gofrestredig. Rwy'n ofalgar ac yn dosturiol.
"Pe bawn i wedi dyrnu unrhyw un, byddwn i'n cael fy niswyddo.
"Wnes i ddim ymosod ar neb."
Ond dywedodd yr ynadon wrthi eu bod nhw wedi canfod tystiolaeth Jane Jones yn gredadwy, a'u bod yn cael Sharman yn euog o'r ddau gyhuddiad – ymosod a gorfodi ei ffordd i mewn i dŷ gyda thrais.
Bydd hi'n dychwelyd i'r llys ar 11 Mai er mwyn cael ei dedfrydu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.