Dedfryd 'rhy ysgafn' medd dioddefwr ymosodiad gan hyfforddwr ceffylau

Martin DandridgeFfynhonnell y llun, Jam Press
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Martin Dandridge yn cerdded ei gi, Gulliver, ar noson yr ymosodiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a gafodd ei daro sawl gwaith gyda ffon hoci gan hyfforddwr ceffylau tra'n cerdded ci ar ei dir, yn dweud bod y ddedfryd yn "rhy ysgafn" a'i fod am herio'r penderfyniad drwy sianeli swyddogol.

Cafodd Martin Dandridge, 72, ei daro sawl gwaith yn ystod yr ymosodiad yn Llancarfan, Bro Morgannwg, gan Richard Evan Rhys Williams, 54.

Cafodd braich Mr Dandridge ei thorri yn ystod yr ymosodiad ym mis Rhagfyr 2024, gan ei adael â "phoen parhaus".

Dydd Mawrth fe gafodd Williams ddedfryd o dair blynedd, ond fe ddywedodd Mr Dandridge ei fod am herio'r penderfyniad drwy gynllun sy'n cael ei oruchwylio gan swyddfa'r Twrnai Cyffredinol, gan ei fod yn credu ei fod yn rhy "ysgafn".

Llun Evan WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Evan Williams wedi cael dedfryd o dair blynedd yn y carchar

Mewn datganiad dioddefwr, dywedodd Mr Dandridge, o Swindon, ei fod yn credu ei fod yn "mynd i farw" yn ystod yr ymosodiad.

"Mae'r foment honno'n dal yn fyw yn fy nghof," ychwanegodd.

Dywedodd hefyd fod yr ymosodiad wedi cael effaith barhaol yn gorfforol a meddyliol, a'i fod yn cael trafferth gyda'r "atgof o deimlo'n gwbl ddiymadferth a diamddiffyn".

"Yn anffodus, oherwydd yr ymosodiad a'r hyn sydd wedi dilyn, dydw i ddim yn teimlo fel yr un person ag oeddwn i o'r blaen," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn dal i gael problemau gyda'i fraich a'i law chwith er i'r ymosodiad ddigwydd flynyddoedd yn ôl.

Martin DandridgeFfynhonnell y llun, Jam Press
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Martin Dandridge ei fod yn dal i gael problemau gyda'i fraich ers y digwyddiad

Fis diwethaf fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd fod Williams yn euog o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.

Wrth ei ddedfrydu ddydd Mawrth, disgrifiodd y barnwr, Angharad Price y drosedd fel un "ofnadwy", ac nad oedd "byth yn dderbyniol" i weithredu fel y gwnaeth.

"Roedd gennych chi ddewis y noson honno, drwy aros i'r heddlu ddelio gyda'r sefyllfa, ond fe wnaethoch chi ruthro i'r padog i ddelio gyda'r peth eich hun," meddai.

"Nid yw byth yn dderbyniol cymryd y gyfraith i'ch dwylo eich hunain."

Llun bwthyn ger safle hyfforddi ceffylau Mr Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Dandridge wedi bod yn aros yn y bwthyn gwyliau yma gyda'i wraig am dair wythnos cyn y digwyddiad

Dywedodd Mr Dandridge wrth y BBC ei fod yn credu bod dedfryd Williams yn "rhy ysgafn o ystyried y ffactorau aggravating yn yr achos", gan gynnwys y ffaith ei fod wedi defnyddio arf, a'r anafiadau a achosodd.

Ychwanegodd y byddai'n ei herio drwy'r cynllun Unduly Lenient Sentence, sy'n caniatáu i unrhyw un ofyn am adolygiad o ddedfrydau Llys y Goron os ydyn nhw'n credu eu bod yn rhy ysgafn.

Dywedodd Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ar achos Williams.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig