Dynes wedi marw a thri yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ar yr A55

A55
Disgrifiad o’r llun,

Roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg iawn yn yr ardal nos Iau wrth iddyn nhw ymchwilio i'r digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi marw a thri o bobl yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A55 yng Nghonwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger cyffordd 17 - Morfa Conwy - tua 12:00 ddydd Iau.

Dywedodd yr heddlu bod dynes yn ei 40au, oedd yn teithio yn y car, wedi cael ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Cafodd y tri pherson arall oedd yn teithio yn y car eu cludo i'r ysbyty - dau ohonynt i Stoke ac Aintree mewn hofrenyddion, ac un i Aintree mewn ambiwlans ar y ffordd.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod gyrrwr y lori yn helpu'r llu gyda'u hymholiadau.

Fe gafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Twnnel Conwy a Thwnnel Penmaenmawr am rai oriau.

Cafodd y ffordd i gyfeiriad y dwyrain ei hailagor yn rhannol toc wedi 15:30, cyn i'r ffordd tua'r gorllewin gael ei hailagor yn rhannol yn ddiweddarach.

Mae'r heddlu'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dash-cam perthnasol i gysylltu â nhw.