Pedwar yn gwadu llofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr

O'r chwith i'r dde: Connor Palfrey, Elexi Manny, Georgie Mears a Ricardo Elliot
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar person wedi gwadu llofruddio bachgen 17 oed yn sir Caerffili ym mis Chwefror.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Abertridwr tua 17:45 ar 5 Chwefror yn dilyn adroddiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei anafu'n ddifrifol.
Bu farw Tristan Kerr yn y fan a'r lle.
Yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener, plediodd Ricardo Elliot, 27, Connor Palfrey, 24, Elexi Manny, 24, a Georgie Mears, 18, yn ddieuog i'w lofruddiaeth.
Cafodd y pedwar eu cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl i'r achos llys yn eu herbyn i ddechrau fis Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror

- Cyhoeddwyd7 Chwefror

- Cyhoeddwyd6 Chwefror
