Dylid oedi cynllun radar yng Nghymru wedi 'dirmyg' Trump - Morgan

Dysglau radarFfynhonnell y llun, US Space Force
Disgrifiad o’r llun,

Dysglau tebyg i'r rhai yma fyddai'n cael eu hadeiladu ar Faracs Cawdor

GanElliw Gwawr
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig roi'r gorau i weithio gyda'r Unol Daleithiau ar orsaf radar gofodol gan bod Donald Trump wedi dangos "dirmyg tuag at ein gwlad", yn ôl arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan.

Mae Ms Morgan wedi dweud y dylai ei chydweithwyr yn San Steffan "atal" cynlluniau i osod 27 o ddysglau radar ym Marics Cawdor ger Breudeth, Sir Benfro.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur lleol, Henry Tufnell ei fod yn poeni nad oedd Eluned Morgan, yn ôl pob golwg, eisiau'r swyddi a addawyd gan y cynllun.

Mae gwrthbleidiau wedi beirniadu sylwadau Ms Morgan ac mae Downing Street wedi gwrthod dweud a yw'r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, yn cytuno â'i safbwynt.

Nod cynllun DARC (Deep Space Advanced Radar Capability), a gyhoeddwyd gan y DU, yr Unol Daleithiau ac Awstralia yn 2023, yw canfod ac olrhain gwrthrychau sy'n cylchdroi'r ddaear.

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn bydd radar yn galluogi gwledydd i weld gwrthrychau yn y gofod pell, hyd at 22,000 o filltiroedd (36,000km) o'r Ddaear.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn eisiau adeiladu'r safle radar ar faes awyr ym Marics Cawdor, ac wedi dweud y gallai'r safle radar newydd greu 100 o swyddi hirdymor, gan gadw'r barics ar agor y tu hwnt i'r ddyddiad cau gwreiddiol o 2028.

Ond mae ymgyrchwyr lleol wedi gwrthwynebu'r cynllun.

Baner protest
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun gorsaf radar wedi denu gwrthwynebiad a phrotest i geisio ei atal

Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Eluned Morgan y dylid "atal y prosiect", gan ychwanegu: "Dyw'r Unol Daleithiau dan Donald Trump ddim yr un partner ag oedd o.

"Dyw siarad am dargedu sifiliaid, tanseilio ein cynghreiriaid a thanseilio aberth ein lluoedd arfog ddim yn ymddygiad 'dan ni'n ei ddisgwyl gan gynghreiriad dibynadwy."

Dywedodd bod yna "wahaniaeth clir" rhwng sefyll gyda phartneriaid a "rhoi pas rhydd i arlywydd yr Unol Daleithiau, sydd wedi bygwth troseddau rhyfel a dangos dirmyg at ein gwlad".

Fe ychwanegodd y dylai'r Deyrnas Unedig oedi ei rhan yn y prosiect radar "hyd nes y gallwn fod yn hyderus bod y partneriaethau hynny'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n buddiannau diogelwch".

Map y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dangos lleoliadau'r safleoedd radar yn y tair gwladFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Map y Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n dangos sut fyddai systemau radar y dair wlad yn gallu gorchuddio pob rhan o'r ddaear

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud yn y gorffennol y byddai DARC "yn darparu swyddi a gwella sgiliau o fewn y gymuned leol ar draws pob sector".

Dywedodd yr AS Llafur dros Ganolbarth a De Sir Benfro, Henry Tufnell: "Rwy'n poeni nad yw'r Prif Weinidog, i bob golwg, eisiau'r swyddi lleol a'r twf economaidd y mae'r prosiect yma yn ei gynnig.

"Mae ein cymuned yma yn Sir Benfro wastad wedi chwarae rhan ganolog yn amddiffyn y DU ac mae prosiect DARC yn cynrychioli'r bennod nesaf yn ein treftadaeth balch.

"Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o ddefnyddio amddiffyn i gadw ein gwlad yn ddiogel ac adfywio cadarnleoedd diwydiannol y Deyrnas Unedig."

Doedd llefarydd yn Downing Street ddim am ymateb i gwestiwn am a yw Syr Keir Starmer yn cytuno â galwad Ms Morgan, ond fe ddywedodd y byddai'r cynllun DARC "yn diogelu swyddi hirdymor yn Sir Benfro a Chymru ac yn helpu diogelu cyfathrebu lloeren a gwaith llwywio hanfodol".

Mae llefarydd ar ran arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch yn anghytuno â Ms Morgan, gan ddweud na ddylai'r DU "wneud unrhyw beth all achosi unrhyw niwed economaidd i'r wlad yma, dim ond oherwydd nad ydyn ni'n hoffi'r sawl sydd yn y Tŷ Gwyn".

"Rhaid meddwl yn fwy hirdymor," ychwanegodd.

Mae rhestr lawn o'r holl ymgeiswyr yn yr etholaeth hon ar gael yma.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod sylwadau Eluned Morgan "yn ddim ond ymgais funud olaf... i ddal gafael ar ei sedd", gan ei chyhuddo o "gadw'n dawel ar faterion amddiffyn a materion rhyngwladol" ers dod yn brif weinidog.

Ychwanegodd bod Plaid Cymru "yn gyson wedi gwrthwynebu'r cynllun DARC" a galw ar Lywodraeth y DU "i ganolbwyntio ar ailgodi cysylltiadau Ewropeaidd mewn ymateb i safbwyntiau cynyddol beryglus Trump".

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: "Mae'n glir bod Eluned Morgan yn canolbwyntio ar faterion na sydd wedi eu datganoli i dynnu sylw o record warthus ei phlaid mewn llywodraeth gyda Phlaid Cymru.

"Yn wahanol i'r pleidiau eraill, Reform UK yn unig fydd yn canolbwyntio ar waith bob dydd - gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn rhoi gwerth am arian ac yn rhoi pobl Cymru yn gyntaf."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar bod hi'n "rhyfeddol bod Eluned Morgan yn fodlon peryglu ein diogelwch cenedethol" mewn "byd peryglus o ansefydlog gyda bygythiadau cynyddol o wledydd fel Rwsia ac Iran".

Ychwangodd bod y cynllun "yn broject amddiffyn hanfodol, wedi ei gefnogi gan ei llywodraeth Lafur ei hun yn San Steffan" a bod "ei danseilio am resymau gwleidyddol tymor byr nid yn unig yn anghyfrifol [ond] yn peryglu ein diogelwch a bywoliaethau lleol".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a'r Blaid Werdd yng Nghymru wedi derbyn cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.