'Dwi ddim isio boddi, dwi'n ifanc' - Cofio marwolaeth gŵr mewn damwain cwch

- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys manylion allai beri gofid
Mae artist a cherddor o Gymru wedi siarad am ei phrofiad o weld ei gŵr yn boddi ar ôl mynd i drafferthion wrth hwylio yn Awstralia.
Roedd y ddau wedi mynd allan ar lyn pan wnaeth gwynt cryf chwythu eu cwch drosodd.
Er gwaethaf ymdrechion Annie Morgan Suganami, o Aberystwyth, i geisio achub ei gŵr sawl gwaith a'i gadw uwchben y dŵr, bu farw yn 24 oed.
Dywedodd: "Ddaeth 'nôl lan ac edrych yn syth yn fy llygaid a deud 'I'm sorry'."
Dim siaced bywyd
Roedd Annie Suganami wedi symud i weithio fel athrawes yn Awstralia yn yr 1970au lle wnaeth hi gyfarfod a phriodi Ken McCutchen.
Fe brynodd ei gŵr gwch bychan, ond wnaeth o ddim prynu siaced diogelwch er bod Annie wedi erfyn arno sawl gwaith i gael un.
Yn 1976 fe benderfynon nhw fynd â'r cwch allan ar lyn, er bod y tywydd yn wael. Fe gafodd Mr McCutchen gynnig benthyg siaced diogelwch gan berson ar y lan.
Yn siarad ar raglen Beti a'i Phobol, dywedodd Annie: "Ddudodd Ken 'na na na', neshi ddeud 'Ken don't be a fool... cymer y life jacket ok?'"
"O'n i'n gwisgo un fi a wedodd e 'well if you loved me you'd give me your jacket'...
"A fi'n cofio Gaff y prifathro pan o'n i'n tyfu lan drwy ysgol gynradd [yn dweud] 'never try to save a drowning man, peidiwch neidio ar ôl ci mewn i'r dŵr, os gwympith rhywun mewn dŵr peidiwch neidio mewn - a drowning man will drown you'.
"Roeddet ti'n tyfu lan 'da'r wybodaeth yma ac roedd Mam yn neud siŵr bod ni gyd yn gallu nofio. 'No mate' wedes i 'dwi wedi gweud wrtha ti am fisoedd [i brynu un]. Dwi'n gwisgo hon achos bod fi'n gall... respect the water mate ma' fe'n gryf'."
'Ti'n gorfod safio dy hunan blodyn'
Aeth y ddau allan yn y cwch - yr unig rai ar y llyn oherwydd yr amodau gwael.
Roedd seiclon newydd fynd heibio'r ardal ac roedd cynffon y storm yn ddigon cryf i greu tonnau mawr. Ar ôl troi yn ôl at y lan fe gipiodd gwynt yr hwyl a throi'r cwch drosodd.
Disgynnodd y ddau i'r dŵr a chwythwyd y cwch yn bell oddi wrthyn nhw.
Dywedodd Annie: "Weles i'r cwch a meddwl 'we're not going to make it'. Dyna le o'n i yn y life jacket a Ken yn dod ata i yn panicio - roedd e wedi colli ei sbectol ac yn tynnu fi o danodd.
"So o'n i'n mynd o dan y dŵr a meddwl 'alla i neud e, dere nôl lan nawr' a thrio rhyw dair neu bedair gwaith. A wedyn dechre meddwl 'beth ambyti Mam a Dad gartre, dwi ddim isio boddi, dwi'n ifanc'.
"Ma'r life force yn enfawr a ma'r split second penderfyniad o'n i'n meddwl 'ti'n gorfod safio dy hunan blodyn'.

Annie Suganami mewn arddangosfa o'i gwaith celf yn Oriel Canfas, Aberteifi. Mae hi hefyd yn gerddor, yn athrawes ffliwt ac yn aelod o'r band Cusan Tân
"O'n i'n gallu clywed Gaff yn y dosbarth yn dweud 'never try and save a drowning man', a mi o'n i'n gorfod gwthio fe [ei gŵr] oddi wrtha i yn y pen draw achos roedd e'n glynu ata i yn tynnu fi o dan o hyd ac o hyd ac mi ddaeth e 'nôl lan ac edrych yn syth yn fy llygaid a deud 'I'm sorry'...
"Ma' fe'n foment bwerus a dwi'n teimlo bod e'n foment foethus dwi'n mynd nôl ato fe o hyd, achos roedd e mor onest ac roedd e wedi rhyddhau fi ar yr eiliad yna. Ges i ryddid i fyw fy mywyd."
Yn dilyn marwolaeth ei gŵr fe symudodd Annie i Ganada i weithio fel cerddor cyn byw am gyfnodau yn Ynys Wyth, Llundain, Kuwait, Awstria ac Aberystwyth.
Mae hi bellach yn byw ym Machynlleth gyda'i gŵr Yr Athro Hidemi Suganami, arbenigwr ar wleidyddiaeth ryngwladol, ac yn gweithio fel artist.
Mae arddangosfa o'i gwaith Olion Bywyd i'w weld yn Oriel Canfas, Aberteifi ar hyn o bryd a bydd trafodaeth amdani ar raglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru am 13:00 ar 22 Mawrth ac ar BBC Sounds.
Gallwch wrando ar Annie Suganami yn trafod ei bywyd gyda Beti George ar Radio Cymru am 18:00 ar 22 Mawrth a hefyd ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd18 Ionawr

- Cyhoeddwyd16 Chwefror
