Pryder bod 'pwysau mawr' ar rai gwirfoddolwyr cylchoedd meithrin

Mae Catrin Jones yn un o nifer sy'n gwirfoddoli ar bwyllgor cylch meithrin
- Cyhoeddwyd
Mae rhai gwirfoddolwyr ar bwyllgorau cylchoedd meithrin yn galw am fwy o gymorth arbenigol, gan ddweud fod y rôl yn "lot o gyfrifoldeb, lot o faich" ac yn gallu bod yn "lot o boen meddwl".
Mae gwirfoddolwyr sydd wedi siarad gyda BBC Cymru yn dweud ei bod hefyd yn her sylweddol ceisio denu pobl i ymuno â'r pwyllgorau oherwydd y pwysau.
Gwirfoddolwyr sy'n gwasanaethu ar bwyllgorau cylchoedd meithrin, a nhw sy'n gyfrifol am faterion ariannol, diogelu plant a chyflogi staff.
Dywedodd Mudiad Meithrin eu bod yn cydnabod mai gwirfoddolwyr ydi "asgwrn cefn y cylchoedd", a bod cynlluniau ar waith i "leihau'r pwysau cynyddol mae rhai pwyllgorau yn ei deimlo".
Mae Catrin Jones yn poeni bod "pwysau mawr" ar rai gwirfoddolwyr cylchoedd meithrin
Mae Catrin Jones yn aelod o bwyllgor cylch meithrin yn Rhostryfan ger Caernarfon.
Er yn cydnabod pa mor fuddiol ydi cael pobl o fewn y gymuned yn rhedeg y cylchoedd meithrin, mae hi'n poeni am y llwyth gwaith a'r pwysau o geisio denu rhagor o wirfoddolwyr.
"Ar hyn o bryd, yr heriau mwyaf 'da ni wedi'u cael fel pwyllgor ydi trio recriwtio staff, yn cynnwys cynnig cyfweliadau, sicrhau fod ganddyn nhw'r cymwysterau addas," meddai.
"Mae bob dim 'da ni'n 'neud fel pwyllgor angen sicrhau fod o'n cydymffurfio efo'r safonau gofynnol cenedlaethol."
Ychwanegodd: "Mae'n lot o gyfrifoldeb, lot o faich ar wirfoddolwyr... mae'n gallu bod yn lot o boen meddwl a dweud y gwir, achos mae'r cyfrifoldeb yma sydd gennym ni yn gyfrifoldeb cyfreithiol.
"Dwi'n meddwl fod o'n rhywbeth nad ydi pobl yn sylweddoli pan maen nhw'n camu mewn am y tro cyntaf i fod yn rhan o'r pwyllgor.
"Nid yn unig recriwtio staff, ond recriwtio aelodau o'r pwyllgor hefyd."

Yn ôl Mudiad Meithrin, mae dros 76% o blant sy'n defnyddio eu gwasanaethau o gartrefi lle nad ydi'r Gymraeg yn cael ei siarad
Esboniodd Ms Jones fod y cylch yn Rhostryfan wedi ei gweld hi'n anodd denu aelodau dros y blynyddoedd.
"Mae wedi bod yn andros o her i gael aelodau i gamu 'mlaen," meddai.
"'Da ni wedi cael ambell un yn dod ymlaen ac wedyn yn meddwl fod o'n rhywbeth fel bod yn rhan o gyfeillion yr ysgol wrach, ac wedi sylweddoli beth mae'r gwaith yn gynnwys, wedi camu nôl."
Ychwanegodd fod yr her o gydbwyso gwaith, gofalu am blant a bod ar y pwyllgor yn heriol ar brydiau.
"Balansio gwaith, plant a rôl y pwyllgor, heb sôn am bethau eraill... mae'n andros o her.
"Mae 'na bendant gryfder wrth gael rhan o'r gymuned yn rhedeg rhywbeth sy'n rhan o galon y gymuned, wrth gwrs.
"Ond dwi'n meddwl fod o'n anodd iawn disgwyl i aelodau pwyllgor, sydd heb weithio o fewn y maes, i gynnal cyfweliadau ar gyfer unigolion sydd wedi cymhwyso i weithio yn y maes.
"Wrth ofyn cwestiynau yn y cyfweliadau, faswn i'n gallu meddwl weithiau fod yr ymgeiswyr yn fwy profiadol na'r rhai sy'n cynnig cyfweliadau."
'Stryglo efo staffio yn ofnadwy'
Mae Megi Gruffydd hefyd yn aelod o bwyllgor y cylch yn Rhostryfan, ac yn cytuno fod y pwysau yn gallu bod yn drwm ar adegau.
"Mae o'n constant... mae 'na wastad rywbeth, 'da ni mwy neu lai bob dydd yn siarad efo'n gilydd yn trio datrys problemau, a thrio 'neud yr awyrgylch mor neis i'r plant ac i'r rhieni a'r staff," meddai.
Ymunodd Ms Gruffydd â'r pwyllgor ar ôl iddi symud i'r ardal. Roedd ei merch yn ifanc ar y pryd, ac roedd hi'n awyddus iddi ymuno â'r cylch.
"Nes i symud i'r ardal ac o'n i isio iddi gael y cychwyn Cymraeg yna cyn mynd i'r ysgol.
"Mi oedd y cylch yn Rhostryfan ar gael ac yn amlwg oeddwn i isio cefnogi yn lleol.
"Nes i ymuno efo'r pwyllgor i helpu, ond yn amlwg hefyd i ddod i 'nabod y mamau ac i fod yn rhan o'r gymdeithas."

"Does 'na ddim digon o arweiniad proffesiynol yno i ni fel pwyllgor," meddai Megi Gruffydd
Mae hi a'i chyd-wirfoddolwyr wedi ceisio denu mwy o bobl i ymuno â'r pwyllgor dros y blynyddoedd.
"'Da ni wedi stryglo efo staffio yn ofnadwy," meddai.
"'Da ni fel pwyllgor wedi bod yn cynnal cyfweliadau, gwneud posteri i drio cael pobl i ymuno, trio bob dim fedran ni i gael mwy o staff.
"Ond mae'n rili anodd staffio oherwydd dydi'r oriau ddim yn llawn amser, dydi o ddim yn delerau mor dda a fysa swydd llawn amser."
Mae Ms Gruffydd o'r farn fod angen mwy o arweiniad proffesiynol ar bwyllgorau.
Ychwanegodd: "Does 'na ddim digon o arweiniad proffesiynol yno i ni fel pwyllgor dwi'n teimlo, achos 'da ni gyd yn trio ein gorau i gael y staff gorau a'r amodau gorau i'r plant, ond dwi ddim yn teimlo fod y gefnogaeth yn ddigon da."

Er bod cefnogaeth gan Mudiad Meithrin, mae Elin Wynne o'r farn fod heriau o hyd i bwyllgorau cylchoedd meithrin
Yr un ydi'r farn ar Ynys Môn, ble mae Elin Wynne yn un o ymddiriedolwyr ar bwyllgor y cylch meithrin ym mhentref Llanfechell.
Dywedodd: "Gwirfoddolwyr ydan ni gyd, a chriw bychan iawn ydan ni. Yn wir, ni sy'n 'neud lot o'r gwaith y tu ôl i'r llenni.
"Tydi'r rhieni a'r gymuned ddim bob amser yn gwybod faint o waith a phwysau sydd ar yr ymddiriedolwyr er mwyn gofalu fod y gwasanaeth a'r busnes yn ffynnu ac yn llwyddiannus.
"Yn wir, mae'r staff yn weledol bob dydd, maen nhw'n cwrdd y rhieni, cwrdd ein teuluoedd, ac mae'r plant wrth gwrs yn dod i'w hadnabod nhw.
"Ond i ni fel ymddiriedolwyr, sydd yn wirfoddolwyr, mae 'na lot fawr o bwysau."
'Lleddfu pwysau' ar gylchoedd meithrin yn flaenoriaeth - pennaeth newydd
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2025
Agor cylch meithrin yn wirfoddol yn 'dorcalonnus o galed'
- Cyhoeddwyd28 Mai 2025
Dywedodd ei bod yn falch o gael cefnogaeth gan Mudiad Meithrin, ond fod y pwysau ar wirfoddolwyr yn parhau'n drwm.
"Mi ydan ni'n cael cefnogaeth gan y Mudiad Meithrin a'r cyngor sir," meddai.
"Ond enwau ni sydd ar y llinell derfyn, a ni sy'n gorfod gwneud yn siŵr fod popeth yn ei le i symud y busnes yn ei flaen.
"'Da ni gyd ar ddiwedd y dydd isio'r gorau i'r ardal, ac yn sicr y gorau i'r plant.
"Mi ydan ni'n cael lot o gefnogaeth gan y Mudiad Meithrin o ran templedi polisïau a ballu, ond ar ddiwedd y dydd, mae o fyny i ni 'neud yn siŵr fod nhw yn eu lle, a bod popeth yn cael ei ddilyn.
"Weithiau, efallai byddai 'chydig mwy o arbenigedd yn gallu bod yn help."
'Gwerthfawrogi cyfraniad aruthrol gwirfoddolwyr'
Dywedodd Mudiad Meithrin eu bod yn "gwerthfawrogi'n fawr gyfraniad aruthrol ein gwirfoddolwyr ar bwyllgorau rheoli'r cylchoedd", a'u bod yn "cydnabod mai nhw yw asgwrn cefn y cylchoedd meithrin".
Ychwanegon nhw, mewn holiadur o 2024-25, fod 87% o ymatebwyr wedi nodi eu bod yn teimlo fod y "cyngor, cefnogaeth a'r wybodaeth sy'n cael ei gynnig gan y Mudiad" yn "ardderchog" neu'n "dda iawn", a'r 13% arall yn nodi ei fod yn "foddhaol".
"Serch hynny, mae cynlluniau eisoes ar waith i hwyluso a lleihau'r pwysau cynyddol mae rhai pwyllgorau yn ei deimlo, ac mae hyn yn flaenoriaeth i'r Mudiad," meddai'r llefarydd.
"I'r perwyl hyn, fe sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn 2025 i edrych ar fodelau amgen i'w hystyried gyda'r bwriad o dynnu'r pwysau rheoli oddi ar wirfoddolwyr."
Bydd y grŵp yn cwrdd am y tro olaf yn y dyddiau nesaf i drafod cyfres o argymhellion, gyda'r rheiny'n cael eu rhannu gyda staff ac aelodau maes o law.
Ychwanegodd Dr Catrin Edwards, prif weithredwr Mudiad Meithrin, fod "mynd i'r afael ar y pwysau cynyddol mae rhai gwirfoddolwyr a phwyllgorau yn profi yn parhau yn flaenoriaeth i mi wrth baratoi'r Mudiad a'n haelodau at ddarparu gofal plant sy'n ymateb i anghenion gofal plant rhieni a gofalwyr, nawr ac yn y dyfodol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.