Dyn yn cyfaddef ceisio herwgipio mewn parc dŵr i blant

Llun Moynul JanuFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Moynul Janu ei arestio ym Mharc Fictoria yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi pledio'n euog i dri chyhuddiad o geisio herwgipio mewn parc dŵr i blant yng Nghaerdydd yn 2025.

Bydd Moynul Janu, 34 ac sydd heb gartref sefydlog, yn cael ei ddedfrydu ar 31 Mawrth yn Llys y Goron Caerdydd.

Cafodd ei arestio y tu allan i'r parc chwarae dŵr ym Mharc Fictoria yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2025 ar ôl i'r heddlu dderbyn nifer o alwadau gan y cyhoedd yn poeni am ymddygiad dyn.

Dywedodd yr heddlu fod pobl yn pryderu bod y dyn wedi bod yn recordio plant yn gyfrinachol yn y parc, ond ni ddarganfuwyd unrhyw ddyfeisiau pan gafodd ei arestio.

Cafodd ei gyhuddo'n ddiweddarach o dri chyhuddiad o geisio herwgipio.

Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol