Carwyn Ellis: 'Diolch am ddylanwad fy athrawes cerdd Haf Morris'

Mae Carwyn Ellis wedi teithio'r byd gyda'i gerddoriaeth, ac yn diolch i'w gyn-athrawes cerdd Haf Morris, fu farw yn 2012, am ei dylanwad
- Cyhoeddwyd
O deithio'r byd gyda The Pretenders ac Edwyn Collins i'w rhythmau bossa nova gyda Rio 18, does 'na'm llawer sy'n cysylltu gyrfa Carwyn Ellis gyda cherdd dant.
Ond mae ei albwm ddiweddara' - ac un o'r traciau arni - wedi ei enwi ar ôl un o hoelion wyth y gelfyddyd a hynny er mwyn diolch iddi am feithrin ei dalent a'i ddiddordeb mewn cerddoriaeth.
"Mae jest yn beth rili, rili sbesial i wneud i rywun - i weld bod rhywbeth yna a helpu rhywun i ddatblygu'r peth sydd gyda nhw," meddai.

Yn wreiddiol o Drawsfynydd, roedd Haf Morris wedi byw ar Ynys Môn ers yr 1950au. Roedd yn feirniad cerdd dant ac yn delynores, ac yn 2009 fe dderbyniodd fedal Syr TH Parry Williams gan yr Eisteddfod Genedlaethol
Roedd Haf Morris yn enw blaenllaw yn y byd cerdd dant am ddegawdau ac yn athrawes yn Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones, Amlwch.
Pan ddechreuodd Carwyn Ellis fynd i'r ysgol yn yr 1980au, wedi i'w deulu symud o Henffordd i bentref Benllech, Ynys Môn, fe welodd hi fod ganddo ddawn gerddorol.
Yn ogystal â'r organ, roedd y disgybl newydd wedi dechrau chwarae'r clarinét a'r baswn ac roedd ganddo glust cerddorol.
Felly fe gynigodd Haf Morris roi gwersi ychwanegol iddo yn yr ysgol ben bore cyn i weddill y disgyblion gyrraedd.
Ddwywaith yr wythnos byddai tad Carwyn Ellis yn mynd ag o yno ar y ffordd i'w waith fel rheolwr banc.
Byddai'n cael profion clyw cerddorol - fel gwrando ar alawon syml ar y piano a'u canu yn ôl, cyn datblygu i wneud darnau mwy cymhleth.

Fe gafodd yr albwm Haf ei recordio yn Llundain, Caerdydd a Llandwrog a'i gymysgu yn Rio de Janeiro. Y gân Haf ydy'r trac gyntaf ar ochr B y finyl
"Gydag amser, doedd dim rhaid iddi eistedd wrth y piano - roedd hi jyst yn chwarae recordiau i fi a rhoi manuscript paper i fi a roeddwn i jyst yn sgwennu i lawr be' o'n i'n clywed," meddai Carwyn Ellis wrth BBC Cymru Fyw.
"Roeddwn i'n gallu trawsgrifio'r pethau o'r audio, a doedd dim gwahaniaeth os oedd o'n trac y Beatles neu Sibelius Symphony, roeddwn i'n gallu sgwennu nhw gyd lawr - achos hi.
"Yn y job dwi'n 'neud nawr mae'r sgil yna'n hynod bwysig. Os ydw i'n chwarae gyda phobl ar albwm fi a, os dwi'n mynd i Brasil, fi'n gallu chwarae gydag unrhyw un ac rwy'n gwybod yn iawn beth maen nhw'n ei wneud, dim ots pa fath o fiwsig.
"Ac os mae rhywun yn heirio fi i ware gyda nhw dwi'n gallu gwrando ar y tiwns cwpl o weithiau a gwybod beth ydy'r lein fi'n gorfod 'ware - a diolch iddi hi mae'r sgiliau yna i gyd gyda fi."
Ychwanegodd bod ei gyn-athrawes hefyd wedi dangos iddo fod angen disgyblaeth, gweithio'n galed a chadw safonau uchel bob amser - sy'n hanfodol i fod yn gerddor proffesiynol.

Carwyn Ellis & Rio 18 yn mewn gig lansio albwm Haf yn Galeri, Caernarfon, fis Chwefror 2026
Ar ôl gadael ysgol fe wnaeth Carwyn Ellis astudio cerddoriaeth mewn conservatoire yn Llundain cyn byw yn y brifddinas fel cerddor sesiwn.
Mae o wedi bod yn aelod o fandiau The Pretenders ac Edwyn Collins ers blynyddoedd ac wedi chwarae gyda nifer o artistiaid eraill fel Saint Etienne, Oasis a'r North Mississippi Allstars.
Dechreuodd ryddhau cerddoriaeth ei hun pan oedd o'n 30 gyda'i fandiau Colorama a nawr Rio 18, sydd wedi ei dylanwadu gan gerddoriaeth o Dde America.
Yn fuan wedi i Carwyn Ellis ddechrau yn y coleg, bu farw ei dad a gadawodd y teulu Ynys Môn a cholli cysylltiad gyda'r ardal. Roedd y cerddor yn byw yn Llundain am flynyddoedd ac yn teithio'r byd gyda'i waith ac felly wnaeth o ddim gweld Haf Morris, fu farw ar 25 Rhagfyr 2012, wedi iddo adael yr ysgol.
Oasis a'u cysylltiadau Cymreig
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2025
Dywedodd Carwyn, sydd bellach yn 52 ac yn byw yng Nghaerdydd: "Fi'n difaru 'ny. Wrth i chi fynd yn hŷn, ry'ch chi'n rhoi mwy o amser i edrych yn ôl a gwerthfawrogi'r bobl sy' wedi bod yn dda i chi.
"Rwy 'di gwneud sawl cân nawr yn deud diolch i bobl, so roedd hi'n bryd i fi wneud un i Haf - a gwneud un digon da iddi, rhywbeth pert iddi a rhywbeth diddorol byddai hi'n gwerthfawrogi."

Ac er bod ei yrfa yn teithio gyda bandiau roc yn wahanol iawn i fyd cerdd dant Ynys Môn, mae'n dweud y byddai Haf Morris yn siŵr o werthfawrogi sgwrsio am ei yrfa gerddorol.
Meddai: "Roedd genuine curiosity gyda hi, a 'na'r peth sydd gyda'r cerddorion gorau dwi'n meddwl - os ydyn nhw'n dysgu neu'n darlledu ar y radio neu'n chwarae miwsig. I fi y bobl gorau yw'r rhai efo curiosity.
"Felly byddwn i wedi bod wrth fy modd yn cael catch up gyda hi a chael clonc a sôn am y pethe fi wedi gweld."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Gwrandewch ar Carwyn Ellis a Cherddorfa'r BBC
Carwyn Ellis & Rio 18 a Kizzy Crawford gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC