Menyw yn talu ei dyled gamblo gwerth £40,000 trwy werthu dillad ar-lein

Llun Rachel Grady yn dal eitem o ddillad lan nes i'w wynebFfynhonnell y llun, Rachel Grady
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rachel Grady mewn dyled gwerth £40,000 ar ôl pedair blynedd o ddibyniaeth i gamblo a siopa ar-lein

  • Cyhoeddwyd

Bu Rachel Grady yn cuddio ei dibyniaeth o siopa a gamblo am bedair blynedd.

Ond, tra ar wyliau yn 2024, fe wnaeth hi gyfaddef i'w theulu a'i ffrindiau agos ei bod mewn dyled o £40,000.

"Ro'n i wedi torri'n llwyr fel person," meddai Rachel, 41, a oedd wedi defnyddio sawl cerdyn credyd i'r eithaf ac yn ennill cyflog oedd ond yn ddigon i dalu ei had-daliadau gofynnol.

Ond yn dilyn cyfaddef ei phroblem, fe wnaeth hi ddysgu ei hun sut i ailwerthu dillad ar-lein, gan glirio'r ddyled enfawr honno mewn ychydig dros flwyddyn gan newid ei bywyd.

"Weithiau dwi'n eistedd yma ac yn meddwl, 'Dwi ddim yn gwybod a ydw i'n dal i freuddwydio', achos alla i ddim credu mai dyma beth dwi wedi llwyddo i'w wneud," meddai Rachel.

"Dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi bod yn falch ohonof fy hun yn fy mywyd, ond dwi'n hynod o falch o'r hyn dwi wedi'i gyflawni."

'O'n i wedi torri'n llwyr fel person'

Er gwaethaf ei hymdrechion yn y gorffennol i siarad am ei dibyniaeth, fe wnaeth Rachel gadw'r holl beth yn gyfrinach o 2020 tan y daith gyda'i ffrind a'i theulu ym mis Awst 2024.

Yn dilyn clywed ei ffrind yn sôn am ei chynlluniau i symud tŷ, penderfynodd cyfaddef ei sefyllfa.

"Ro'n i jest fel, 'Dwi ddim yn hapus, dwi mewn lle gwael iawn ar hyn o bryd'," meddai Rachel, o Ferthyr Tudful.

"Fe wnes i dorri lawr braidd...fel ro'n i wedi rhyddhau popeth yn llwyr… do'n i ddim yn gallu stopio.

"Doedd gen i ddim arian i wneud dim byd o gwbl a ro'n i wedi torri'n llwyr fel person.

"Fe wnes i gyfaddef rhai o'r pethau mwyaf ofnadwy.

"Roedd fy mhlant yno ac fe wnaethon nhw wrando, ac roedden nhw fel, 'ti'n gallu gwneud hwn, mam'.

Dwi'n meddwl mai dyna roddodd fwy o dân yn fy mol i mi wybod bod y plant yma'n fy nghefnogi i."

Llun o Rachel GradyFfynhonnell y llun, Rachel Grady
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rachel gadw ei dibyniaeth yn gyfrinach am bedair blynedd

Ar ôl bron i 24 mlynedd yn y Fyddin, disgrifiodd Rachel ei gyrfa fel y "rhan fwyaf anhygoel" o'i bywyd, ond dywedodd ei bod wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl.

"Dwi'n meddwl ei fod wedi effeithio arna i dros amser… yr holl bethau dwi wedi'u dioddef drwy gydol fy mywyd tra yn y Fyddin.

"Rwyt ti'n rhyw fath o esgus nad oes dim o'i le arnat ti pan rwyt ti jest yn bwrw ymlaen, ond y tu mewn, mae cymaint yn mynd ymlaen."

Dywedodd Rachel bod ei hiechyd meddwl wedi amrywio drwy gydol ei bywyd, wrth iddi dderbyn cefnogaeth fel therapi a meddyginiaeth drwy'r Fyddin.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod yn cymryd problemau gamblo o ddifrif ac yn cydnabod yr "effaith sylweddol" y gallai ei chael ar iechyd a lles aelodau'r lluoedd arfog.

Ychwanegon nhw bod ganddynt "lwybr clinigol gamblo cynhwysfawr", gan gynnwys asesiad, cefnogaeth ac atgyfeiriad at wasanaethau arbenigol y GIG, yn ogystal â chefnogaeth lles a bugeiliol.

Er gwaethaf hyn, dywedodd Rachel ei bod wedi canfod ei hun yn troi fwyfwy at safleoedd gamblo yn ystod Covid oherwydd "nad oedd hi'n hapus o gwbl".

Dywedodd fod llawer o'i dibyniaeth yn hawdd i'w guddio trwy apiau betio ar ei ffôn symudol.

"Nes i'n siŵr fy mod i'n ei guddio rhag pawb... dyna sut roeddwn i'n gwybod ei fod yn anghywir oherwydd fy mod yn ei guddio."

Rachel GardyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Ro'n i jest yn prynu dillad ac yn eu rhoi yn y cwpwrdd achos mae hynny'n rhoi'r un teimlad i mi a gamblo," meddai

Roedd Rachel yn ailwerthu dillad ar apiau fel Vinted ac eBay i ariannu ei gamblo, ond roedd hi'n "gwbl gaeth" i brynu dillad hefyd gan ddefnyddio tri cherdyn credyd yn y broses.

"Ro'n i jest yn prynu dillad ac yn eu rhoi yn y cwpwrdd achos mae hynny'n rhoi'r un teimlad i mi a gamblo," meddai.

"Dwi ddim yn mynd i unman mewn gwirionedd, felly ro'n i'n gwerthu'r dillad yna ac yn cael arian da amdanyn nhw.

"Roedd hynny fel pe bai'n ariannu'r gamblo, ac yna byddwn i'n prynu eto ac wedyn gwerthu."

Mewn ymgais i berswadio ei hun nad oedd "dim o'i le", roedd Rachel yn dweud wrth ei hun fod ei gamblo a'i siopa "hollol normal".

"Dydych chi ddim yn sylweddoli eich bod wedi dod mor gaeth nes eich bod ynddo, ac rydych chi wastad yn ceisio dweud wrth eich hun chi ddim, ond mae'n gelwydd."

Llun Rachel Grady yng nghanol sawl parsel pincFfynhonnell y llun, Rachel Grady
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn mae gan Rachel busnes ei hun yn gwerthu dillad ar-lein gan ennill £2,000 y mis ar un wefan yn unig

Mewn ymgais i dorri'r ddibyniaeth a symud ymlaen, penderfynodd Rachel ddefnyddio ei sgiliau ailwerthu.

Ar ôl edrych ar bobl eraill oedd yn prynu bwndeli o ddillad ac yn eu gwerthu am elw, aeth ati i wneud hynny ei hun.

Gwnaeth £500 o fwndel gwerth £30 a meddwl, "Iawn, dwi'n gallu gwneud hyn".

"Cyn i mi sylweddoli, ro'n i'n gwneud tua £2,000 y mis ar Vinted yn unig."

Gyda chymuned fawr o ailwerthwyr yn rhannu awgrymiadau ar TikTok, lansiodd Rachel ei chyfrif ei hun ym mis Hydref 2025 i ddogfennu ei thaith a'i chadw ar y "llwybr cywir".

Mae ganddi dros 20,000 o ddilynwyr, gyda hyd yn oed ffrindiau ei phlant, Archie, 14 a Megan, 21 yn gweld ei chynnwys.

"Dwi mor falch bod rhywbeth cadarnhaol wedi dod allan o'r sefyllfa yma… yn enwedig i fy mhlant."

Llun sawl parsel pinc ar ben gwely yng ngharafán RachelFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rachel gychwyn ei busnes yn ei charafan cyn iddi orfod symud i rhywle fwy o faint

Er bod Rachel wedi cyfyngu ar ei mynediad i unrhyw fath o wefannau gamblo, mae hi dal yn gorfod brwydro yn erbyn ei dibyniaeth.

"Mae'r teimlad o gofio beth dwi wedi'i gyflawni wastad yn drech na'r gamblo, ac mae fel rhyw bŵer arbennig dwi'n teimlo fy mod i wedi'i greu yn fy meddwl i oresgyn y negyddiaeth yna.

"Dwi'n cael fy 'hit' mewn gwirionedd drwy ailwerthu, ac mae hynny'n llawer mwy pwerus na cholli arian."

Mae Rachel wedi cynnal gweithdai ailwerthu am ddim i rannu'r hyn mae wedi dysgu i eraill sy'n dioddef o ddibyniaeth.

"Dylai pobl ddim teimlo cywilydd, ac mae yna ffordd allan bob tro.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.