Carcharu dyn o Wynedd am fod â gwerth dros £250,000 o gocên

Craig LloydFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Craig Lloyd ei garcharu am saith mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a gafodd ei ganfod hefo gwerth dros £250,000 o gocên wedi cael ei garcharu.

Roedd Craig Lloyd, 38 oed o Faesgeirchen ym Mangor, wedi gadael y cyffuriau yng nghist ei gar, y tu mewn i focs wedi'i labelu hefo'i enw a'i gyfeiriad, meddai'r heddlu.

Cafodd y cocên ei ganfod gan swyddogion heddlu ar ôl iddo gael ei arestio ar 5 Mawrth.

Ymddangosodd Lloyd i gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, ar ôl cyfaddef dau gyhuddiad o fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.

Fe wnaeth gyfaddef hefyd o fod hefo symiau mawr o arian parod yn ei feddiant a nifer o droseddau gyrru.

Cafodd ei garcharu am saith mlynedd ac un mis.

Pres a chocênFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu ganfod arian parod a chocên yn ei feddiant

Dywedodd yr heddlu fod swyddogion ar y stryd fawr pan welson nhw Lloyd yn gyrru beic modur trydan anghyfreithlon, a'i fod wedi ceisio ffoi.

Yn ddiweddarach pan gafodd Lloyd ei ddal, fe wnaeth yr heddlu ei archwilio a chanfod swm o arian parod a chocên yn ei feddiant.

Ar ôl ei arestio, archwilion nhw ei gartref a'i gar.

Dywedodd Jamie Owens, Arolygydd Rhanbarth i Heddlu'r Gogledd, fod hyn yn "ganlyniad rhagorol i'r gymuned ac mae dedfryd heddiw yn anfon neges glir na fydd gweithgaredd o'r fath yn cael ei oddef".

"Mae ein tîm plismona cymuned yn parhau i fod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i bobl leol.

"Byddwn yn parhau, yn rhagweithiol, i stopio ac archwilio unrhyw unigolyn sy'n cael ei amau ​​o gyflenwi cyffuriau, er mwyn amddiffyn aelodau'r gymuned sy'n agored i niwed."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.