Seicosis ar ôl geni: 'Ro'n i'n gwybod nad o'n i'n ddiogel'

Mae Sofii Lewis am godi ymwybyddiaeth am seicosis ôl-enedigol ar ôl dioddef ei hun
- Cyhoeddwyd
Ar ôl geni ei merch, treuliodd Sofii Lewis fisoedd mewn uned mamau a babanod arbennig, cyfnod mae'n dweud wnaeth achub bywydau'r ddwy.
Wedi cael diagnosis o seicosis ôl-enedigol a thueddiadau OCD yn fuan ar ôl rhoi genedigaeth, dywedodd Sofii nad oedd ganddi "unrhyw syniad" pa mor sâl oedd hi.
"Ro'n i'n gwybod nad o'n i'n ddiogel," meddai.
"Ond do'n i ddim yn meddwl 'mod i allan o reolaeth."
Uned iechyd meddwl i famau newydd a'u babanod o Gymru wedi agor yng Nghaer
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025
'Gwendidau a diffygion allweddol' mewn gwasanaethau mamolaeth - asesiad
- Cyhoeddwyd25 Chwefror
Mae seicosis ôl-enedigol yn salwch meddwl difrifol prin sy'n dechrau'n sydyn ddyddiau neu wythnosau ar ôl geni babi.
Mae modd ei drin ond mae'n gallu gwaethygu'n gyflym ac mae'n effeithio ar tua un o bob 1,000 o famau.
Mae Sofii, 27 o Aberdâr, eisiau codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y cyflwr.
Ar ôl beichiogrwydd a genedigaeth anodd, dywedodd ei bod hi'n gwybod ar unwaith nad oedd pethau'n iawn wrth afael yn ei merch.
"Doedd dim byd yno. Doedd gen i ddim diddordeb er fy mod i newydd eni a dyna fy mhlentyn cyntaf," meddai.
'Teimlo mor fyw ar y pryd'
Yn yr wythnosau canlynol, roedd Sofii yn ei chael hi'n anodd cysgu ac roedd hi'n clywed sŵn bipian yn ei hystafell wely yn y nos.
"Ro'n i'n meddwl bod rhywun yn ceisio prynu [ei merch] Evie gan bod fy ymennydd yn meddwl bod y sŵn bipian yn dod o'r til," meddai.
"Dyw'r holl beth ddim yn gwneud synnwyr i fi nawr, ond roedd yn teimlo mor fyw ar y pryd."
Ychwanegodd Sofii ei bod yn ddig pob tro roedd Evie yn crio, felly aeth at gwnselydd ac egluro ei theimladau.
Dywedodd wrthi y gallai treulio cyfnod mewn uned mamau a babanod fod o fudd.
"Do'n i ddim yn gwybod eu bod nhw'n bodoli," meddai Sofii.

Dywedodd Sofii fod yr uned mamau a babanod wedi bod o gymorth enfawr iddi
Roedd Sofii'n ofnus o gael ei gwahanu oddi wrth ei phartner ac yn poeni y byddai'r profiad fel bod mewn carchar.
Oedd dywedodd fod yr uned yn llawer tebycach i neuadd breswyl, ac roedd byw gyda menywod eraill, rhannu profiadau tebyg, ochr yn ochr â meddyginiaeth a therapi, yn gymorth mawr iddi.
Llwyddodd i ffurfio perthynas gydag Evie a'i magu hi groen-wrth-groen am y tro cyntaf yn 16 wythnos oed.
"Roedd hynny'n foment fawr iawn i fi," meddai.
Tair blynedd yn ddiweddarach, mae Sofii am helpu mamau eraill drwy godi ymwybyddiaeth a'u hannog i ofyn am help os ydyn nhw ei angen.
Beth yw seicosis ôl-enedigol?
Yn ôl gwasanaeth iechyd Cymru, mae symptomau'n amrywio ac yn gallu newid yn gyflym.
Maen nhw'n cynnwys mania, iselder, dryswch a rhithwelediadau (hallucinations).
Gall ddigwydd i unrhyw fenyw ac mae'n gallu para sawl wythnos neu'n hirach.
Mae'n gyflwr llawer llai cyffredin nag iselder ôl-enedigol, ac mae unigolion fel arfer yn gwella'n llwyr.

Fe gafodd Dr Sally Wilson ddiagnosis o seicosis ôl-enedigol dros ddegawd yn ôl
Mae Dr Sally Wilson yn gweithio i Action on Postpartum Psychosis - elusen a achubodd ei bywyd 11 mlynedd yn ôl, bron yn syth ar ôl genedigaeth ei merch.
"Yn fy meddwl i, ro'n i wedi marw," meddai.
"Ro'n i'n byw mewn arallfyd ac yn cael fy nghosbi am rywbeth a ddigwyddodd i fy merch. Ges i ddiagnosis o seicosis ôl-enedigol.
"Ro'n i'n bell o realiti, roedd yn wirioneddol frawychus.
"Es i ward seiciatrig gyffredinol a ges i fy ngwahanu oddi wrth fy mabi."
Safon gofal wedi gwella
Dywedodd Dr Wilson ei bod wedi cymryd "amser hir" iddi wella, a bod safon gofal arbenigol wedi gwella ers ei phrofiad hi.
"Bellach mae gyda ni dimau perinatal arbenigol ym mhob un o'r byrddau iechyd yng Nghymru, mae gyda ni uned benodol mamau a babanod yn Abertawe.
"Mae uned newydd agor yng Nghaer, sy'n gydweithrediad rhwng gwasanaeth iechyd Cymru a Lloegr."
Dywedodd Dr Wilson ei bod hi'n gweithio gydag amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd i wneud yn siŵr bod ymwybyddiaeth am y cyflwr yn cynyddu hefyd.

Mae'r Athro Arianna Di Florio yn dweud ei bod yn anodd adnabod y symptomau'n gynnar
Yn ôl yr Athro Arianna Di Florio o Brifysgol Caerdydd, sy'n arbenigo mewn iechyd menywod, mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth am seicosis ar ôl geni, heb godi bwganod.
"Er ei fod yn brin iawn, mae hefyd yn hawdd ei drin," meddai.
"Mae'n frawychus ond mae triniaeth yn gweithio'n dda iawn, ac mae'r rhan fwyaf o fenywod yn gwella a'r rhan fwyaf byth yn dioddef eto."
Dywedodd hefyd mai'r peth anoddaf oedd adnabod y symptomau'n gynnar, yn enwedig pan nad oedd hanes o salwch meddwl.
"Mae'n gallu digwydd i unrhyw un," meddai.
Os ydy cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.