Morgan 'eisiau'r berthynas agosaf bosib â'r Undeb Ewropeaidd'

"Tydi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fod o fudd i Gymru," medd y Prif Weinidog, Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud nad ydy hi'n cuddio'r ffaith ei bod hi'n frwd dros yr Undeb Ewropeaidd.
Dywed Eluned Morgan ei bod eisiau gweld Cymru gyda'r berthynas agosaf bosib at yr UE.
Pleidleisiodd 52.5% o bleidleiswyr Cymru i adael yr undeb yn 2016.
Roedd hi'n ymateb ar raglen Politics Wales BBC Cymru i sylwadau gan Faer Llafur Llundain, Syr Sadiq Khan, yr wythnos hon y dylai'r blaid ymgyrchu i ailymuno â'r UE yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Daw'r sylwadau wrth i Lywodraeth Prydain newid ei bwyslais ar Brexit wrth iddynt geisio mynd i'r afael â pherfformiad economaidd gwan y DU.
Ond er bod Syr Keir Starmer wedi dweud mewn araith y llynedd bod "Brexit wedi achosi loes sylweddol i'n economi", mae Downing Street wedi dweud dro ar ôl tro na fydd y llywodraeth yn ailymuno â'r undeb dollau a'r farchnad sengl.

Pleidleisiodd 52.5% o etholwyr Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016
Yn siarad ar raglen BBC Politics Wales, mi wrthododd Eluned Morgan ddweud os y dylai Llafur addo ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, ond mi ddywedodd: "Dydw i ddim am ymddiheuro mod i wedi bod eisiau'r berthynas agosaf bosib erioed.
"Rydw i'n frwd o blaid Ewrop," ychwanegodd.
"Tydi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fod o fudd i Gymru. Rydym wedi gweld toriadau i allforion, sy'n effeithio swyddi.
"Rydym wedi gweld toriadau yn sgil ariannu ac roedd 'na addewid na fyddwn ni geiniog yn dlotach. Tydi hynny heb ddigwydd."
Erasmus: Croesawu ailymuno â chynllun myfyrwyr 'hynod gadarnhaol'
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2025
Safle £51m Caergybi i reoli ffiniau ar ôl Brexit i aros yn wag
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2025
Mae Eluned Morgan yn ymuno â nifer cynyddol o ffigyrau blaenllaw Llafur sy'n trafod perthynas y DU gyda'r EU yn agored.
Dywedodd Wes Streeting, Gweinidog Iechyd y DU, fis Hydref ei fod yn credu y bydd hi'n anodd cyflawni'r twf economaidd mae'r llywodraeth wedi addo tu allan i'r UE.
Ac ar bodlediad diweddar dywedodd David Lammy, y dirprwy brif weinidog, bod hi'n "amlwg" bod Brexit wedi niweidio'r economi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.