Jonathan Davies yn derbyn CBE am ei waith â chanolfan ganser

- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-chwaraewr rygbi, Jonathan Davies, wedi derbyn CBE gan Dywysog Cymru ym Mhalas Windsor.
Mae Jonathan Davies, neu 'Jiffy' i nifer, wedi derbyn yr anrhydedd am ei waith gyda Chanolfan Ganser Felindre, yn ogystal â'i gyfraniad i ddarlledu.
Dywedodd ei fod yn "falch iawn" ar ôl cael ei gynnwys yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Ar y pryd, dywedodd: "Mae'n neis i ennill e o ran y gwaith ar y teledu, yn enwedig gan bo' fi wedi gwneud y ddwy gêm - cynghrair a'r undeb.
"Ond be sy'n bwysicach yw'r elusen ganser - a hwnna, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth i lot o bobl, a helpu mas Ysbyty Felindre gyda'r gweithwyr a'r gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud - a sai'n credu bod pobl yn deall ac yn parchu nhw nes bod nhw yn anffodus yn gorfod mynd yno."
Fe dderbyniodd MBE ac OBE yn y gorffennol, ac mae bellach yn derbyn anrhydedd uwch y CBE.
Mae Davies yn llywydd Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, ac mae wedi dweud ei fod yn anrhydedd i bawb sy'n gweithio ar ran yr elusen.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2025
