Ymdrech frechu'r pandemig yn 'gamp aruthrol' - Ymchwiliad Covid

Roedd yr ymdrech frechu yn ystod pandemig yng Nghymru ac ar draws y DU yn "gamp aruthrol", yn ôl Ymchwiliad Covid-19 y DU
- Cyhoeddwyd
Roedd yr ymdrech frechu yn ystod y pandemig Covid-19 yng Nghymru ac ar draws y DU - yr ymgyrch imiwneiddio fwyaf yn hanes y gwasanaeth iechyd - yn "gamp aruthrol", yn ôl Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig.
Mae'n dweud fod y modd cyflym iawn y cafodd brechlynnau eu datblygu a'u dosbarthu yn enghraifft o "lwyddiant" amlwg yn ystod y pandemig.
Mae'r ymchwiliad yn nodi mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnig dos cyntaf o frechlyn i'r pedwar grŵp oedd yn cael eu blaenoriaethu - yn cynnwys pobl hŷn a phreswylwyr cartrefi gofal - a hynny erbyn Chwefror 2021.
Yn ôl un amcangyfrif, erbyn Mehefin 2022, fe gafodd tua 7,000 o fywydau eu hachub yng Nghymru oherwydd brechu.
Mae'r ymchwiliad hefyd yn canmol y gwaith cyflym a gafodd ei gyflawni i ddod o hyd i driniaethau newydd.
GIG Cymru 'bron wedi dymchwel' yn ystod y pandemig
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Ymateb 'annigonol ac araf' i'r pandemig yng Nghymru - ymchwiliad Covid
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2025
Y gwasanaeth iechyd yn 'fwy bregus' nag erioed i ymateb i argyfwng
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Mae'r adroddiad - y pedwerydd i gael ei gyhoeddi gan yr ymchwiliad - yn rywfaint o wrthgyferbyniad i'r tri adroddiad blaenorol.
Fe wnaeth y rheiny godi cwestiynau mawr am rai o benderfyniadau allweddol yn ymateb pedair llywodraeth y DU, yn ogystal ag amlinellu pa mor fregus oedd y gwasanaeth iechyd pan darodd Covid-19.
Mae'r ymchwiliad yn nodi fod yr ymateb o ran brechu a datblygu triniaethau "yn dangos rhinweddau gorau systemau ymchwil iechyd a gwyddonol y DU".
Erbyn Gorffennaf 2021 - blwyddyn a hanner wedi'r achos cyntaf yng Nghymru gael ei gadarnhau - roedd tua 90% o'r boblogaeth yng Nghymru wedi derbyn o leiaf un dos o frechlyn Covid-19.
Roedd hyn ar y pryd yn debyg i'r gyfradd yn Yr Alban, ac yn uwch na'r gyfradd yn Lloegr (87%) a Gogledd Iwerddon (82%).

Mae'r ymchwiliad yn galw am fwy o gefnogaeth i deuluoedd a gollodd eu hanwyliaid
Mae'r ymchwiliad yn canmol "ymroddiad staff iechyd a gofal i ddarparu brechlynnau ar gyfradd ddigynsail".
Ond mae'r adroddiad yn nodi fod yna wersi i'w dysgu ac yn cynnig cyfres o argymhellion.
Mae'r adroddiad yn nodi fod rhai grwpiau mewn cymdeithas - er enghraifft mewn cymunedau mwy difreintiedig ac ymysg rhai grwpiau o leiafrifoedd ethnig - wedi ei chael hi'n anoddach neu wedi bod yn fwy amharod i dderbyn brechlyn nag eraill.
Mae'n nodi hefyd y dylid cymryd camau, cyn unrhyw bandemig nesaf, i gyfathrebu a meithrin hyder yn y cymunedau hynny.
Mae'r ymchwiliad hefyd yn rhybuddio fod amheuaeth ynglŷn â brechu "ar gynnydd ledled y byd ac yn y DU" a bod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn golygu y gall "gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ledaenu'n gyflym".
Mae'r ymchwiliad yn dweud fod angen cymryd camau yng Nghymru ac ar draws y DU i weithio yn erbyn hyn.

Mae'r ymchwiliad yn canmol "ymroddiad staff iechyd a gofal i ddarparu brechlynnau ar gyfradd ddigynsail"
Er bod yr ymchwiliad yn nodi fod y mwyafrif helaeth o bobl gafodd frechlyn ddim wedi dioddef unrhyw sgil effeithiau, neu sgil effeithiau bach iawn o gael eu brechu, fe gafodd grŵp bach niwed, a bu farw rhai unigolion.
Mae'r ymchwiliad yn galw am fwy o gefnogaeth i deuluoedd a gollodd eu hanwyliaid, yn ogystal â diwygiadau cyflym i'r system sy'n cynnig taliadau i'r rhai gafodd niwed.
Mae'r ymchwiliad hefyd yn dweud fod angen gwneud mwy i sicrhau fod "galluoedd ymchwil y DU yn parhau i fod ar flaen y gad" o ran datblygu brechlynnau a thriniaethau, ac na ddylid "caniatáu i'r seilwaith a'r arbenigedd a oedd mor llwyddiannus yn ystod y pandemig i wywo".

"Datblygwyd, cynhyrchwyd a dosbarthwyd brechlynnau effeithiol i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth mewn byr amser," meddai'r Farwnes Heather Hallett
Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett bod y "rhaglen frechu yn gamp aruthrol".
"Datblygwyd, cynhyrchwyd a dosbarthwyd brechlynnau effeithiol i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth mewn byr amser," meddai.
"Fodd bynnag, er bod y rhan fwyaf o bobl wedi derbyn y cynnig o frechlyn, roedd llai o frechu mewn cymunedau mewn ardaloedd o dlodi uchel ac mewn rhai cymunedau lleiafrifoedd ethnig.
"Rhaid i lywodraethau a gwasanaethau iechyd weithio gyda chymunedau i adfywio ymddiriedaeth a hyrwyddo dealltwriaeth a hyder.
"Ni allwn wybod pryd y daw pandemig arall, ond dylai fy argymhellion wneud i'r DU fod yn fwy parod ar gyfer y pandemig hwnnw.
"Rwy'n annog y llywodraethau i gyd i weithio'n unigol ac i gydweithio i weithredu'r argymhellion yn gyflym."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.