Plaid Cymru yn gollwng ymrwymiad i ymchwiliad Covid penodol i Gymru

CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi tynnu'n ôl ar eu hymrwymiad i gynnal ymchwiliad Covid penodol i Gymru os bydd yn ennill etholiad y Senedd ym mis Mai.

Gwnaed yr addewid ym maniffesto Etholiad Cyffredinol 2024 y blaid ac fe'i hailadroddwyd yn Senedd Cymru y llynedd.

Dywedodd llefarydd cyllid y blaid, Heledd Fychan, wrth BBC Cymru ddydd Iau fod y blaid bellach yn cynnig adolygiad i "ddysgu gwersi", ond nid cynnal ymchwiliad llawn.

Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu bod Plaid Cymru a Reform yn cystadlu am y safle uchaf ym mis Mai wrth i Lafur frwydro i ddal gafael ar rym.

'Dysgu gwersi mewn ffordd wahanol'

Dywedodd Heledd Fychan wrth y BBC: "Galwon ni am un [ymchwiliad Covid] o'r blaen, ond nawr byddem ni'n edrych i ddysgu'r gwersi hynny a sicrhau mewn ffordd wahanol ac mewn ffordd rydyn ni wedi'i thrafod gyda theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid oherwydd Covid a chyda'r GIG, oherwydd nawr rydyn ni chwe blynedd ar ôl i'r pandemig ddechrau mae llawer wedi newid yn y GIG.

"Yr hyn sydd angen i ni ei sicrhau yw pan fydd pandemig yn digwydd eto ein bod ni mewn gwell sefyllfa i ymateb i sicrhau diogelwch staff a chleifion."

Pan ofynnwyd iddi egluro safbwynt y blaid pe bai'n arwain llywodraeth nesaf Cymru, ychwanegodd: "Byddai ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd yn ystod Covid, ond nid ymchwiliad llawn.

"Dylai fod wedi bod un. Fe wnaethon ni gefnogi un a galw am un. Ond nawr mae angen i ni sicrhau bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu'n gyflym."

Wrth siarad yn y Senedd fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, y byddai'r blaid yn "sefydlu ymchwiliad Covid i Gymru o fewn blwyddyn gyntaf tymor nesaf y Senedd".

Roedd yr addewid hefyd ym maniffesto Etholiad Cyffredinol 2024, dolen allanol.

Beth yw barn y pleidiau eraill?

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau i ymrwymo i ymchwiliad Covid penodol i Gymru.

Mae llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod cynnal ymchwiliad o'r fath, ar y sail bod angen ymchwilio i'r pandemig mewn cyd-destun ehangach y DU.

Dywedodd Plaid Werdd Cymru y dylai ymchwiliad Cymru fod wedi'i gynnal eisoes ond "mae'r amser bellach wedi mynd heibio ac rydym yn credu bod angen i ni ganolbwyntio ar weithredu argymhellion ymchwiliad y DU ac adeiladu gwydnwch GIG Cymru".

Dywedwyd wrth BBC Cymru fod Reform yn credu bod angen mwy o waith penodol i Gymru i ddysgu'r gwersi o'r ffordd y cafodd y pandemig ei drin.