Canfod arf bob pythefnos mewn cyfnod o 6 mis yn ysgolion Caerdydd

Dyn ifanc yn cario cyllellFfynhonnell y llun, Getty Images
GanGwyn LoaderNewyddion S4C a Hannah WilliamsNewyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Cafodd 12 arf eu canfod ymhlith disgyblion ysgol Caerdydd mewn cyfnod o chwe mis yn ôl ffigyrau sydd wedi eu rhannu â Newyddion S4C.

Mae'r ffigyrau, sy'n cyfateb i ganfod un arf ymhlith disgyblion ysgol y brifddinas bob pythefnos yn "frawychus" yn ôl undeb NASUWT.

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Caerdydd bod sicrhau diogelwch i staff a disgyblion ar safleoedd addysg yn flaenoriaeth.

'Ddylai dim arfau fod yn ein hysgolion'

Ym mis Medi llynedd, fe gyflwynodd cyngor Caerdydd ganllawiau newydd ar arfau mewn ysgolion a safleoedd addysgu fel rhan o'u cynlluniau i gadw pobl ifanc a gweithwyr yn ddiogel.

Fel rhan o'r cynlluniau hynny, cafodd sganwyr llaw eu cyflwyno i bob ysgol drwy'r sir sydd yn galluogi gweithwyr i archwilio unrhyw un y maen nhw'n amau o fod ag arf yn eu meddiant.

Wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, fe ddywedodd cyngor Caerdydd bod 19 o archwiliadau am arfau wedi cael eu cynnal yn ysgolion y sir rhwng mis Medi 2025 a mis Mawrth 2026. Chafodd dim arf ei ganfod mewn saith o'r archwiliadau hynny.

Disgrifiodd Sion Amlyn, Swyddog Achos a Pholisi undeb athrawon NASUWT y ffigyrau fel rhai "brawychus".

"Petasai un arf yn cael ei ganfod, mae o'n un yn ormod, felly mae'r ffaith...bod hyn yn ymddangos ar gynnydd yn frawychus....[a'r] ffaith eu bod nhw'n niferus yn bryderus."

"Ddylai dim arfau fod yn ein hysgolion ni, maen nhw fod yn llefydd diogel i'n plant ac i'n staff ac mae'r ffigurau yma'n awgrymu efallai eu bod nhw ddim."

Mae Millie Mae-Adams yn hyfforddi i fod yn feddyg ac yn gwirfoddoli gydag elusen Street Doctors, sydd yn addysgu pobl ifanc am beryglon cario arfau.

Dywedodd wrth Newyddion S4C y byddai'r "rhif yna yn synnu pobl yn gyffredinol, ond wrth siarad â phobl ifanc, dyw e ddim yn synnu fi".

"Fi'n gwybod bod pobl ifanc â'r syniad eu bod nhw am amddiffyn eu hunain wrth gario fe [arf], ond dyw hynny ddim yn wir."

Yn ôl Millie, a gafodd ei magu yn y brifddinas, roedd trais a bygythiad trais yn un o'r rhesymau iddi benderfynu hyfforddi fel meddyg.

Mae'n gobeithio bod ei gwaith gyda Street Doctors yn dwyn perswâd ar bobl ifanc i beidio â chario arfau.

"Fi'n credu byse'r rhif yna lot mwy os byddech chi'n edrych ar bob ysgol yng Nghymru...ar y strydoedd mae pobl yn cario arfau a chyllyll.

"Mae'n argyfwng i fywyd ac felly mae'n broblem fawr."

'Sicrwydd i deuluoedd'

Mewn ymateb i gwestiynau Newyddion S4C, cadarnhaodd cyngor Caerdydd na chafodd unrhyw un eu gwahardd yn barhaol mewn cysylltiad â'r 19 archwiliad na'r 12 arf gafodd eu canfod mewn ysgolion.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran cyngor Caerdydd nad "cynnydd mewn digwyddiadau sydd dan sylw" gan ddweud yn hytrach bod "angen i ysgolion fod yn barod a chael cefnogaeth rhag ofn bod digwyddiad yn codi".

Yn ôl y cyngor, mae eu cynlluniau i ganfod ac atal defnyddio arfau mewn ysgolion wedi eu "datblygu ynghyd ag amrywiaeth eang o bartneriaid".

Mae hynny, meddai'r cyngor yn cynnwys "Heddlu'r De, undebau llafur, gwasanaethau ieuenctid ac arbenigwyr atal trais i leihau risg... atal niwed a rhoi sicrwydd i deuluoedd bod ysgolion yn llefydd diogel a chefnogol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.