Crynodeb

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 12:45 GMT+1

    Mae'n llif byw ni'n dod i ben am heddiw, ond fe gewch chi ragor o ddadansoddiad o addewidion y Blaid Werdd ar brif dudalen Cymru Fyw gydol y dydd.

    Cofiwch hefyd fod y BBC eisiau clywed pa straeon rydych chi am i ni fwrw golwg arnyn nhw cyn yr etholiad.

    Mae Dy Lais yn rhoi lle canolog i'ch straeon a'ch cwestiynau yn ein darllediadau etholiadol.

    Cliciwch y botwm isod i gyflwyno'ch syniad, a gallai gael ei gynnwys ar raglen deledu, radio, gwasanaethau ar-lein y BBC, BBC Sounds ac ar gyfryngau cymdeithasol.

    Ewch yma i gyflwyno syniad.

    Dy Lais
  2. Ymwybodol o'r 'risg amlwg' i gynllun i wella'r sector rhentu taiwedi ei gyhoeddi 12:38 GMT+1

    Mae maniffesto'r Gwyrddion yn cynnig rhestr o fesurau i geisio gwneud rhentu eiddo yn haws, ac o bosib yn rhatach.

    Mae'n cynnwys rhewi rhent am flwyddyn, gan gynnwys rhwng tenantiaethau, a rheolaethau ar rent, gan ganiatáu gweinidogion Cymreig i gymeradwyo "parthau rhent sydd o dan bwysau, lle mae cap ar rent er mwyn cadw tai yn fforddiadwy".

    Yn ôl y blaid, bydd cynnydd mewn rhent "ond yn cael ei ganiatáu pan fydd landlordiaid yn gwneud gwelliannau gwirioneddol i dai, yn arbennig uwchraddiadau sy'n gwella effeilthonrwydd ynni ac yn lleihau allyriadau carbon".

    Ar BBC Radio Wales y bore 'ma, dywedodd eu hymgeisydd Tessa Marshall ei bod yn cydnabod fod yna "risg amlwg" yn y cynllun, pan gafodd ei holi os mai canlyniad anfwriadol o hyn fyddai llai o eiddo ar gael i'w rentu.

    "Rydyn ni'n gwybod fod yna risg i'r sector, felly dyna pam mai rhewi'r rhent fyddai ein cam cyntaf," meddai.

    TaiFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Polanski ta Slaughter?wedi ei gyhoeddi 12:32 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Fel unrhyw blaid sydd yn rhan o beiriant ehangach yn Lloegr, mae cwestiynau yn codi dros bwy sydd wir yn arwain plaid.

    Mae Zack Polanski wedi bod yn llwyddiannus fel ymgyrchydd sydd yn gwybod sut mae bod yn berthnasol yn y cyfryngau.

    Ond mae hefyd wedi bod yn bendant mai Anthony Slaughter sydd yn arwain penderfyniadau ar bolisïau yma yng Nghymru.

    Mae’n siŵr bydd angen cydbwysedd rhwng y ddau fel wynebau yn ystod yr ymgyrch i feithrin canlyniad da.

  4. Rhaid codi'r cwestiwn - sut?wedi ei gyhoeddi 12:23 GMT+1

    Jenny Rees
    Gohebydd Iechyd BBC Cymru

    Y brif thema sy'n dod o gynlluniau iechyd y Gwyrddion ydy atal - sy'n teimlo fel nod mwy hirdymor.

    Ond o ystyried y pwysau fydd ar unrhyw blaid mewn llywodraeth yn syth, maen nhw'n dweud y byddai achos o rywun yn cael gofal mewn cadair am fwy na 24 awr mewn adrannau brys yn cael ei ystyried yn "never event" - h.y. digwyddiad difrifol y mae modd ei atal a allai achosi niwed i gleifion.

    Bydden nhw'n cyflwyno "strategaeth ganser genedlaethol wedi'i hariannu'n llawn", tystiolaeth well ar gyfer canser eilaidd, a mynediad estynedig at wasanaethau sgrinio a diagnostig - popeth y byddai arbenigwyr yn eu cefnogi dwi'n siŵr.

    Ond mae sôn am fwy o gyllid a mynediad at wasanaethau meddyg teulu a deintyddol yn codi'r cwestiwn - sut maen nhw am wneud hynny?

    A gydag un o bob 10 menyw yn delio â diagnosis endometriosis, byddai'r addewid o sefydlu canolfannau endometriosis ym mhob bwrdd iechyd yn sicr o gael ei groesawu.

    Ond mae'n bwysig peidio â gwadu mawredd yr hyn y maen nhw'n eu cynnig, o ystyried mai dim ond dwy ganolfan achrededig sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a dyw nifer fawr o fenywod mewn rhannau helaeth o'r wlad ddim yn gallu cael mynediad at ofal arbenigol, y tu hwnt i gefnogaeth nyrsys arbenigol.

  5. Rhoi polisïau amgylcheddol i un ochrwedi ei gyhoeddi 12:17 GMT+1

    Tomos Morgan
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae beth glywon ni yn debyg i'r math o bethau ry'n ni wedi bod yn ei glywed ar lefel y DU gan y Blaid Werdd.

    Mae polisïau amgylcheddol wedi cymryd sedd ôl wrth i'r blaid ganolbwyntio ar faterion eraill.

    Dydyn nhw ddim yn anghofio am y polisïau amgylcheddol hynny, ond maen nhw'n bendant yn eu rhoi i un ochr, ac yn rhoi mwy o bwyslais ar y materion eraill.

    Cafodd nifer o faterion eu trafod, ond fe wnaeth Anthony Slaughter sioe fawr ynglŷn â thai ar ddechrau'r araith, gan ddweud mai dyma'r prif beth roedd ef a'i blaid eisiau ei weld.

    Ond gyda tharged uchelgeisiol, ei ymateb i gwestiynau ynglŷn ag ariannu oedd y byddai'r pethau yma yn talu drostyn nhw eu hunain.

  6. 'Addewidion uchelgeisiol' ynglŷn â phobl ifanc ac addysgwedi ei gyhoeddi 12:11 GMT+1

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Fel y pleidiau eraill fe fyddai’r Gwyrddion yn ehangu gofal plant am ddim.

    Maen nhw’n addo o leiaf 20 awr o ofal am ddim i bob teulu sydd â phlant rhwng naw mis a phedair oed, gydag oriau ychwanegol yn dibynnu ar incwm.

    Mae prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd yn ymrwymiad drud arall.

    Byddai rhoi diwedd ar gau ysgolion gwledig bach yn heriol, gyda chynghorau yn wynebu pwysau ariannol a thueddiadau demograffeg yn golygu bod llai o blant i lenwi llefydd mewn rhai ardaloedd.

    Ar addysg uwch, nod y Gwyrddion yw sicrhau bod 40% o bobl ifanc yn mynd i brifysgol erbyn diwedd tymor y Senedd – a hynny gyda llai na thraean o bobl 18 oed wedi gwneud cais y llynedd.

    Maen nhw’n addo cymorth mwy hael gyda chostau byw i bobl ifanc sy’n aros yng Nghymru i astudio. Yr uchelgais yn y tymor hir yw addysg uwch am ddim.

    YsgolFfynhonnell y llun, PA Media
  7. Uchelgeisiau cryf a dadleuol ym maes gofal iechydwedi ei gyhoeddi 12:05 GMT+1

    Jenny Rees
    Gohebydd Iechyd BBC Cymru

    Yn y maniffesto yma mae gan y Gwyrddion uchelgeisiau cryf a rhai dadleuol ar gyfer maes gofal iechyd.

    Rhai sy'n sefyll allan ydy'r cynigion i ddarparu gwasanaeth rhywedd pwrpasol i bobl ifanc dan 17 oed, ac y dylai meddyginiaethau atal y glasoed fod yn hygyrch.

    Mae'r cyffuriau sy'n oedi'r glasoed dros dro wedi'u gwahardd yn y DU ar hyn o bryd, yn dilyn adolygiad yn 2024.

    Mae treial clinigol i asesu'r risgiau a'r manteision wedi'i gynllunio, ond mae'r treial hwnnw wedi cael ei oedi nawr hefyd yn dilyn pryderon gan y corff gwarchod meddyginiaethau.

    Yn y maniffesto mae yna gynllun hefyd i annog y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i gyhoeddi eu canllawiau eu hunain, "yn annibynnol o'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr".

    Ond o ystyried y ddadl am y mater yma, mi fyddai hyn yn newid mawr i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru sydd, hyd yn hyn, wedi dilyn arweinyddiaeth Lloegr.

  8. ‘Y Gwyrddion ddim yn gwneud hyn am sedd o gwmpas y bwrdd’wedi ei gyhoeddi 12:03 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Yn ymateb i gwestiwn, dywed Anthony Slaughter ei fod “yn dysgu” o brofiad y Blaid Werdd mewn clymblaid gyda’r SNP o 2021 i 2024.

    “Y wers dwi’n cymryd o brofiad y Gwyrddion yn yr Alban yw pan ddaru’r SNP ddechrau chwarae o gwmpas gyda nhw, yn tanseilio’r cytundeb, mi ddaru nhw benderfynu cerdded i ffwrdd,” meddai.

    Dywed mai dyma'r “neges glir” i unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol os oes unrhyw gytundeb.

    “Dydy’r Gwyrddion ddim yn gwneud hyn i gael sedd o gwmpas y bwrdd, rydyn ni eisiau cyflawni ar newid go iawn i bobl a’r blaned,” meddai.

  9. 'Mae ein blaenoriaethau'n glir'wedi ei gyhoeddi 11:55 GMT+1

    Gareth Lewis
    Golygydd gwleidyddol BBC Cymru

    Os allwn ni fod ychydig yn llym am eiliad, fe allech chi ddarllen y ddogfen hon fel rhestr o bethau na fydd yn digwydd.

    Mae'r Gwyrddion eu hunain wedi derbyn nad ydyn nhw am fod y blaid fwyaf ac na fydd Anthony Slaughter yn Brif Weinidog Cymru.

    Fe anwybyddodd Slaughter gwestiwn am y ffaith a fydden nhw'n cyhoeddi costau eu maniffesto.

    Datgelodd e ddim llawer chwaith am ble fydden nhw'n cael digon wrth negodi â phleidiau eraill ar ôl yr etholiad.

    "Mae ein blaenoriaethau'n glir," meddai.

    Tai yw adran gyntaf y maniffesto yma.

  10. Eisiau sicrhau cydraddoldeb tâl o fewn y maes gofal cymdeithasolwedi ei gyhoeddi 11:53 GMT+1

    India Pollock
    Gohebydd materion cymdeithasol BBC Cymru

    Un o'r prif bethau mae gweithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn galw amdano yw cyflog cyfartal - a chydraddoldeb mewn parch - â staff sy'n gweithio i'r GIG.

    Mae'r Gwyrddion yn addo cynyddu cydraddoldeb mewn tâl a lles o fewn y gweithle ar draws maes gofal cymdeithasol, ac yn dweud y byddan nhw'n buddsoddi mewn rhwystro ac ymyriad cynnar ar gyfer plant ac oedolion.

    Dydyn nhw ddim yn dweud sut y byddan nhw'n talu am hynny.

  11. 'Angen dybryd am fwy o ynni adnewyddadwy'wedi ei gyhoeddi 11:52 GMT+1

    Mae'r Gwyrddion yn deall yr "angen dybryd am fwy o ynni adnewyddadwy", meddai Slaughter yn ei araith, gan alw am "chwyldro ynni gwyrdd".

    Mae'n dweud bod angen cynnydd mawr mewn prosiectau sy'n eiddo i'r gymuned, a bod angen mwy o brosiectau oddi ar yr arfordir.

    Mae angen i gymunedau weld budd o ynni adnewyddadwy, ychwanegodd.

  12. Bygwth diddymu trwydded Dŵr Cymruwedi ei gyhoeddi 11:49 GMT+1

    Dywedodd Anthony Slaughter yn ei araith bod un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru a bod arfordir y wlad wedi'i llygru.

    "Ni all hyn barhau," meddai.

    "Rydyn ni'n talu rhai o'r biliau dŵr uchaf yn y DU.

    "Os na fyddan nhw'n gwella, bydd angen i drwydded Dŵr Cymru gael ei diddymu," gyda dŵr yn cael ei ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, meddai.

  13. A fydd rhywun yn cydweithio â'r Gwyrddion i ddiddymu treth cyngor?wedi ei gyhoeddi 11:47 GMT+1

    Felicity Evans
    Golygydd arian BBC Cymru

    Treth cyngor yw un o'r biliau mwyaf mae cartrefi yn gorfod ei wynebu, ac mae nifer o economegwyr ac ymgyrchwyr yn ei ddisgrifio fel "treth atchweliadol" (regressive tax), sydd yn golygu ei fod yn rhoi pwysau anghyfartal ar gartrefi incwm is.

    Mae adbrisiad yng Nghymru wedi ei gynllunio ar gyfer 2028, a fydd yn newid biliau ar gyfer nifer o gartrefi, ond mae'r Gwyrddion yn cynnig cael gwared â'r dreth yn gyfangwbl, a rhoi treth gwerth tir yn ei le.

    Mae'r blaid yn dweud y byddai'n golygu bod "y rhan fwyaf o bobl yn talu llai, a'r perchnogion eiddo cyfoethocaf yn cyfrannu mwy".

    Fodd bynnag, mae ailffurfio trethiad lleol wedi bod yn bwnc llosg yn wleidyddol dros y blynyddoedd, gan adael nifer o bleidiau gwleidyddol yn amharod i roi cynnig gwirioneddol arni.

    Bydd hi'n ddiddorol gweld a fydd y Gwyrddion yn gallu dod o hyd i bleidiau eraill sy'n barod i gydweithio ar y mater yma ar ôl yr etholiad.

  14. 'Y ras am y chweched sedd am fod yn dynn'wedi ei gyhoeddi 11:45 GMT+1

    Gareth Lewis
    Golygydd gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r ddau geffyl blaen yn ôl yr arolygon barn - Plaid Cymru a Reform - yn ceisio cyfleu mai brwydr rhyngddyn nhw yn unig fydd yr etholiad yma.

    Ond mae eu gwrthwynebwyr yn anghytuno.

    Mae Slaughter yn dweud bod y ffaith bod y ras am fod mor dynn i gael y chweched sedd mewn etholaethau - o dan y system bleidleisio newydd - yn golygu y gallai pleidlais dros y Gwyrddion gadw sedd o bosibl allan o ddwylo Reform.

    "Pleidleisiwch am y Gwyrddion, i gael y Gwyrddion," meddai.

  15. Y lansiad wedi dod i derfynwedi ei gyhoeddi 11:41 GMT+1

    Mae'r lansiad ym Mhort Talbot ar ben, ond arhoswch gyda ni am yr holl ddadansoddi.

    Gwyrddion
  16. Prosiect adeiladu tai uchelgeisiol - ond dim digon i gwrdd â'r galwwedi ei gyhoeddi 11:39 GMT+1

    Felicity Evans
    Golygydd arian BBC Cymru

    Un o addewidion y Gwyrddion yw rhaglen adeiladu tai enfawr o 60,000 o dai cymdeithasol dros y 10 mlynedd nesaf.

    Mae'r prinder o dai fforddiadwy yn y lleoedd cywir yn broblem fawr yng Nghymru, sydd yn arwain at broblemau eraill, fel rhenti sy'n cynyddu'n gyflym o fewn y sector preifat, a miloedd o bobl mewn llety dros dro ledled Cymru.

    Ond mae 'na rwystrau helaeth i'w goresgyn er mwyn cyflawni'r fath brosiect adeiladu uchelgeisiol, fel prosesau cynllunio dyrys, darpariaeth ddigonol o wasanaethau ac ariannu'r gwaith adeiladu.

    Mae'n gynnig uchelgeisiol, ond mae'r rhestr aros ar gyfer cartrefi cymdeithasol yn fwy na'r swm yma.

    Dangosodd ffigyrau gan elusen dai Shelter Cymru y llynedd fod 94,000 cartref, neu 177,000 o bobl yn aros am dŷ cymdeithasol, gyda'r ffigwr hwnnw'n cynnwys 55,000 o blant.

  17. Slaughter yn gwrthod ateb cwestiwn ar gostauwedi ei gyhoeddi 11:37 GMT+1

    Gareth Lewis
    Golygydd gwleidyddol BBC Cymru

    Does dim modd rhoi ffigwr ar gap rent gan nad yw'r gwaith wedi cael ei wneud eto, meddai arweinydd y blaid Anthony Slaughter.

    Ond mae'n awgrymu y gallai fod yn agos at lefel chwyddiant CPI, ac 1% ar ben hynny hyd at 6%.

    Mae Slaughter yn gwrthod ateb cwestiwn am a fyddai'r Gwyrddion yn cyhoeddi eu costau ar gyfer y maniffesto yma.

  18. Dylanwadu ar y llywodraeth newydd yw'r gobaithwedi ei gyhoeddi 11:32 GMT+1

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Does yna neb yn y stafell yma yn credu y gall y blaid ennill yr etholiad fis Mai - y nod yw ethol eu haelodau cyntaf i'r Senedd.

    Ond maen nhw’n gobeithio y bydden nhw’n gallu dylanwadu ar y llywodraeth nesaf.

    Mae’n annhebyg y bydd gan unrhyw blaid fwyafrif ac felly mae’r Blaid Werdd yn anelu i ethol digon o aelodau i chwarae rôl hanfodol wrth benderfynu pwy fydd y prif weinidog nesaf.

    A drwy hynny, gallu gwireddu rhai o’r polisïau sydd yn y maniffesto yma.

    Gwyrddion
  19. Manylion y cynnig i reoli rhentiwedi ei gyhoeddi 11:29 GMT+1

    Gareth Lewis
    Golygydd gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r Gwyrddion eisiau rhewi rhenti am flwyddyn er mwyn rhoi "rhyddhad ar unwaith". Dyma ragor o fanylion.

    Byddai eu datrysiad hirdymor yn gweld gweinidogion Cymru yn caniatáu i gynghorau sefydlu 'Parthau Pwysau Rhent' lle byddai rhenti'n cael eu capio.

    Does dim manylion yn y maniffesto ynghylch ble y byddai'r cap hwnnw'n cael ei osod, ond mae ffynhonnell o'r blaid yn dweud y byddai'n "llymach nag yn yr Alban".

    Yn yr Alban mae modd gosod capiau ar fesur CPI o chwyddiant, ac 1% ar ben hynny hyd at 6%.

    Byddai hyn i gyd yn gofyn am lawer o waith, a byddai'n rhaid cael deddfwriaeth newydd yn y Senedd.

    Mae arweinydd y Gwyrddion, Anthony Slaughter, yn dweud yn agored ei fod yn cyflwyno i dargedu pleidleiswyr iau.

  20. Addewidion gwario yn golygu toriadau?wedi ei gyhoeddi 11:26 GMT+1

    Felicity Evans
    Golygydd arian BBC Cymru

    Bydd rhai o'r ymrwymiadau gwario mwyaf yn y maniffesto, fel ehangu'r cynnig gofal plant, yn codi cwestiynau am ariannu.

    Mae'r Sefydliad Astudiaethau Ariannol wedi dweud eisoes y bydd llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu tirwedd ariannol fwy heriol, oherwydd eu bod y rhagweld y bydd "y cynnydd mewn arian gan Lywodraeth y DU yn arafu, a'r galw am a chostau gofal iechyd a lles yn codi".

    Felly, fel sy'n wir am addewidion gan bleidiau gwleidyddol eraill, gall unrhyw ymrwymiadau gwario ychwanegol olygu toriadau i wariant sydd eisoes mewn lle.