«
»
Y GWANWYN
Ionawr 22 2010
Nid dweud ydan ni fod y Gwanwyn wedi cyrraedd - dim o bell ffordd. Mae 'na bobol anwydog yn rhynnu yn eu corneli yn y swyddfa 'ma yn cwyno'i bod hi'n oer, chwa ysgafn o blu eira yn chwyrlio heibio'r ffenestri, a rhagloygon y tywydd yn bygwth mwy o 'gawodydd gaeafol' tros y Sul.
Ond, mae hi'n hwyr glas i ni ddechrau cadw clust a llygaid ar agor am arwyddion cyntaf y Deffro Mawr. Ac mae 'na rai o'n hamgylch ni eisoes - yng nghan wanwyn y Robin Goch, bloeddio boreuol a hwyrol y ceiliog Bronfraith, a gweiddi treiddgar, herfeiddiol y Titw mawr.
Mae o yn naws awyr y Gigfran hefyd, ym mhennau gwynion yr Eirlysiau, ac yn estyniad graddol oriau goleuni'r dydd.
Pwrpas yr adran hon yw cofnodi rhai o arwyddion y Deffro fel a phryd y gwelwn ni nhw - ac mae'r adran hon yn agored i chwithau hefyd - os gwelwch chi flagur cynnar, neu aderyn mudol buan, neu beth bynnag - rhowch wybod i ni (a gyrrwch lun os oes modd) ac fe allwn ni ei gynnwys o yn yr adran hon.