Twm Elias yw un o aelodau selocaf tim Galwad Cynnar. Darlithydd a Threfnydd Cyrsiau yn Nghanolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch ydi o yn swyddogol, ond mae o hefyd yn olygydd y cylchgrawn Fferm a Thyddyn, yn gyd-olygydd Llygad Barcud (cylchgawn Cymdeithas Ted Breeze Jones) ac yn gyfranwr cyson i Llafar Gwlad. Fel pe bai hynny ddim yn ddigon, mae Twm, hefyd, yn awdur llond silff o lyfrau ar fyd natur, hanes amaethyddiaeth, llen gwerin ac arwyddion tywydd.
Yn ogystal a'i gyfraniadau wythnosol i Galwad, mae Twm wedi cyfrannu i raglenni eraill megis Natur Wyllt a Byd Iolo.Cyn ymuno a thim Galwad Cynnar, ryw dro tua diwedd y ganrif ddwythaf, roedd Twm yn aelod cyson o banel Seiat Byd Natur, ac w'chi be? Mae o hyd yn oed wedi darlledu ar radio a theledu yn yr iaith fain!
Rydym ni yn pryfocio tipyn ar Twm, ond mae gan pob un o'r tim barch mawr tuag ato mewn gwirionedd oherwydd, y ffaith yw fod Twm, rwdlyn chwareus ag ydi o, yn chwip o naturiaethwr.
Diweddaraf
Dolenni
- Blog - adar Ynys Enlli
- Gwegamera - Nyth Titw
- Gwegamera - wiwer goch
- Gwefan Llŷn
- Blog Modrwyo Adar
- Llên Natur
- BBC Cymru - Teithiau Cerdded
- BBC Wales Nature (Saesneg)
- Buglife (Saesneg)
- 400 Smiles A Day (Saesneg)
- Welsh Kite Trust (Saesneg)
- Darganfod Gwynedd
- Darganfod Gwynedd
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.


