«
»
Dolydd Hafren
Canol Mai, roeddem ni yn darlledu yn fyw o warchodfa Dolydd Hafren, rhwng Y Trallwng a'r Drenewydd.
Rheolir y warchodfa gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Terefaldwyn, ac mae'n un o hoff warchodfeydd Iolo Williams.
Gwarchodfa gweddol fychan yw hon, ar lannau yr Hafren. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o warchodfeydd natur Cymru, mae hon wedi ei hynysu gan diroedd âr ac mae hynny yn ffactor bwysig yn natur y warchodfa ac yn y modd y mae'n cael ei rheoli. Mae nifer o gaeau o'i hamgylch yn cael eu defnyddio i dyfu cnydau ar gyfer bywyd gwyllt y warchodfa, a clywsom Hywel Roberts a Duncan Brown yn disgrifio fel y mae hon yn warchodfa sydd yn cael ei 'garddio' yn hytrach na'i rheoli - yn hyn o beth, mae'n debycach i warchodfeydd canolbarth Lloegr nac i rai Cymru.
Tynnwyd y llun uchod o'r maes parcio, yn edrych yn òl i fyny'r lòn fach arw sydd yn arwain i lawr o ffordd Caerhywel. Er fod angen gofal mawr i osgoi'r tyllau dyfnion ar y lòn hon, mae'n werth mentro, gan fod hon yn warchodfa fach fendigedig.
Mae llwybr y warchodfa yn cychwyn ger yr arwydd sydd ar ochr chwith y llun uchod.