Fe yrrodd Mary E. Griffiths Pencaenewydd (Pwllheli) weddillion daearol y pryfyn uchod i ni, gan ofyn a'i y Sgimwr, neu Picellwr, Linell Ddu (Orthetrum cancellatum, Black-tailed Skimmer neu Black lined Skimmer) oedd o. O'r lluniau yn Llyfr Natur Iolo, hwn oedd debycaf i'r corff ffeindiodd Mrs Griffiths.
Mae o yn debyg iawn i'r O.cancellatu benywaidd -glas yw y gwrw- ar yr olwg gyntaf, heblaw am rai nodweddion, Tua blaen yr adennydd, mae yna fymrun bach o liw (pterostigma yw'r enw gwyddonol arno) - melyn tywyll yn achos y corffyn ffeindiodd Mrs Griffiths, ond du fyddai y rhain ar y Sgimwr Llinell Ddu.. Mae y gweddillion (a derbyn eu bod wedi tywyllu a chrebachu rywfaint post mortem) yn braffach o lawer yn y Llinell Ddu. Ar ben hynny, dim ond yn Ne Lloegr ac ar odre isaf De Cymru ceir y Picellwr Llinell Ddu fel rheol - er, fe'u ceir weithiau yn Sir Amwythig ac yng ngogledd Ceredigion.
Ar y llaw arall, mae lliwiau adennydd a maint y corffyn yn cyfateb i'r dim â Phicedwr neu Sgimwr arall, sef Orthetrum coerulescens, y Picellwr Cribog (Keeled Skimmer yn Saesneg). Ac mae hwn i'w gael fynychaf yng Nghymru, Cernyw, Gorllewin yr Alban ac ar arfordir Dwyreiniol yr Iwerddon.
Diweddaraf
Dolenni
- Blog - adar Ynys Enlli
- Gwegamera - Nyth Titw
- Gwegamera - wiwer goch
- Gwefan Llŷn
- Blog Modrwyo Adar
- Llên Natur
- BBC Cymru - Teithiau Cerdded
- BBC Wales Nature (Saesneg)
- Buglife (Saesneg)
- 400 Smiles A Day (Saesneg)
- Welsh Kite Trust (Saesneg)
- Darganfod Gwynedd
- Darganfod Gwynedd
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.


