 |
 |
 |
 |  |  |  |
Neuadd Brangwyn, Abertawe - Cartref Paneli'r Ymerodraeth Brydeinig |
 |
Y Paneli
Bu farw'r Arglwydd Ivaegh ym 1927 pan oedd dim ond 5 o'r 16 panel wedi eu gorffen. Cafodd y rhain eu cyflwyno i Bwyllgor Dethol Ty'r Arglwyddi, a benderfynodd, yn ôl cyngor Y Comisiwn Brenhinol ar Gelfyddyd Gain, bod y gwaith yn anaddas ar gyfer Ty'r Arglwyddi. Ond anogodd yr ymddiriedolwyr Brangwyn i orffen y gwaith, ac fe'i cwblhaodd ym Mis Hydref 1932. Yn y flwyddyn ganlynol, penderfynodd yr ymddiriedolwyr i gynnig y paneli i gorff arall.
Ar ôl gweld y gyfres gyfan o baneli yn Arddangosfa'r 'Ideal Home' yn Olympia ym 1933, mynnodd y Cynghorydd o Abertawe, Leslie W. Hefferman, bod Abertawe i roi cartref i'r paneli. Dechreuodd y Cyngor drafodaethau gyda'r ymddiriedolwyr a chytuno i newid y cynlluniau ar gyfer y Neuadd Ymgynnull i gartrefu'r paneli. Roedd hyn yn cynnwys codi'r nenfwd o 12 modfedd, a gwneud cilfachau yn y waliau i gymryd fframiau'r paneli fel bod y paneli'n ymddangos fel petaen nhw wedi cael eu paentio'n uniongyrchol ar y waliau.
| Blwch Ffeithiau: Syr Frank Brangywn R.A. 1867-1956 | |
Ar anterth ei yrfa Frank Brangwyn oedd yr artist Prydeinig enwocaf o'i gyfnod, yn adnabyddus am ei ddefnydd o liwiau llachar ac am weithio ar raddfa fawr.
|
| 1867 |
Ganwyd yn Bruges, Gwlad Belg, i deulu Eingl-Gymreig
|
| 1875 |
Dychwelodd y teulu Brangwyn i Loegr
|
| 1880 |
Symudodd i Gaerdydd
|
| 1882 |
Yn 15 oed, aeth yn brentis i William Morris am 2 flynedd fel ddyluniwr cynorthwyol
|
| 1885 |
Cael ei arddangos am y tro cyntaf yn yr Academi Frenhinol
|
| 1904 |
Etholwyd yn Gymrawd yr Academi Frenhinol
|
| 1925 |
Arddangosfa fawr o'i waith yn Boston, UDA
|
|
|
Print this page |
 |  |  |  |

Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
|  |  |

|  |  | |
|  |  |

|  |
|