 |
Cafwyd diwrnod bendigedig dan ofal Eleri Jones, y cydlynydd a oedd yn ein tywys o gwmpas yr arddangosfa yn yr Oriel, a chafwyd cyfle i sgetsio'r castell ar cychod gan ei fod mor braf. Yn ystod y prynhawn roedd Anna Pritchard yn dangos ei lluniau o'i gwaith gwehyddu i ni ac yna yn ein helpu i greu ein lluniau lliwgar ein hunain. Roedd pawb wedi mwynhau y gweithdy yn fawr iawn.
 |
 |