 |
Dathlu 200 mlynedd Roedd 2005 yn nodi 200 mlynedd ers cwblhau adeiladu pont ddŵr Thomas Telford ym Mhontcysyllte. Mae'n cael ei hadnabod fel gwaith gorau Telford, a gododd y bont 121 troedfedd uwchben yr afon Dyfrdwy. Gosodwyd y garreg gyntaf yng Ngorffennaf 1795, ac mi gymerodd ddeg mlynedd i'w chodi, gan gostio £47,000.
Ar Dachwedd 26, 2005 daeth cannoedd o bobol i ddathlu 200 mlwyddiant codi'r bont.
Cliciwch yma i weld lluniau'r bont ddŵr. |
 |