
Geiriau bro'r Eisteddfod
Rhai geiriau defnyddiol ar gyfer eich ymweliad â bro'r Eisteddfod a'r cyffiniau.
Altro -newid
Bech - bach
Bêt - tamaid o fwyd
Blaid - beudy
Cog, cogie - bachgen, bechgyn
Cwter - ffos
Hen gogie - llafnau ifainc
Lodes, lodesi - merched ifainc.
Cial - cael
Cieth - cath
Deche - yn iawn, cymeradwy (job ddeche, bachgen deche; lle deche)
Drib drab - bob yn dipyn (mar pethe'n dod drib drab)
Fffest - cyflym
Fflwr - blawd pobi. Blawd = bwyd anifail
Ffyle - ceffylau
Gepian - dylyfu gên
Heddiw - fel ag yn Heddiw'r bore, Heddiw'r pnawn yn hytrach na bore heddiw, pnawn heddiw. Mi awn ni yno fory'r bore.
Lib-lab - yn ddibaid. Mae'n siarad lib-lab.
Mofyn - eisiau. Ymofyn. Mae'n moyn cweir.
Trigo - wedi marw
Propor - tlws derbyniol (lodes bropor; mae'n edrych yn bropor)
Rip-rap - yr un peth na'r llall. Chwit chwat.
Rowtiau - olion olwyn cert
Sbriws - bywiog
Sgiffin - haen denau o eira
Sidro - ystyried (o cysidro)
Sietin - gwrych
Stingoedd - gwrychoedd
Sycar - anifail sy'n sugno
Syri - mewn cyfarchiad,Sut mae hi Syri
Wiced - giât fach, llidiart.
Wtra - ffordd gul
Whitho - chwitho

|