|
Aeth bechgyn 5 a 6 Ysgol Gynradd Felindre ar ymweliad preswyl gyda dosbarth 5 Ysgol Gellionnen i ganolfan 'Call of the Wild' yn Abercrâf.
Yno, buont yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hybu cydweithio fel tîmm dringo ac abseilio lawr Craig y Ddinas, cerdded i fyny'r Cribarth a gwynebu nifer o sialensau gwahanol.
Diolchwn i blant a staff Ysgol Gellionnen am eu croeso arbennig.
 |