 |
Cawn ddarlun o gymdeithas amaethyddol sydd wedi hen ddiflannu bellach, ond y bu ei gweithgareddau, ei hiaith a'i chymeriadau o ddiddordeb i gofnodwyr a chroniclwyr cydwybodol a oedd yn awyddus i goffáu'r hyn a fu cyn iddo ddadfeilio.
Trwy hyn llwyddwyd i ddiogelu etifeddiaeth a fyddai wedi mynd yn angof llwyr oni bai am eu gweledigaeth a'u hymroddiad.
Er mai ar Fro Morgannwg y mae prif sylw'r gyfrol hon, y gobaith yw y bydd disgrifio natur diwylliant gwerin yr ardal honno yn egluro natur y prosesau a fu'n llywio cymeriad cymunedau tebyg eraill ledled Cymru.
Daw Allan James o Faesteg, ond ymgartrefodd bellach yn Llantrisant. Mae'n Brif Ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg, ger Pontypridd, lle y mae'n cyfuno ei ddiddordeb mewn iaith, addysg Gymraeg, a diwylliant ei fro.
Cyhoeddwyr y gyfrol yw Gwasg Gomer a'r pris yw £12.95.
 |
 |