 |
Bu'r Y Tyst, newyddiadur Undeb yr Annibynwyr, yn trafod cyfrifoldebau yr hyn a eilw'r papur yn "eco-eglwys" gan ddweud fod diogelu'r cread yn un o bum nod cenhadol yr Undeb.
"Mae diogelu'r amgy1chedd yn un o bynciau llosg ein cyfnod ac os na fydd ein gwleidyddion yn gwneud y penderfyniadau radical sy'n rhaid eu gwneud, ac i'r gweddill ohonom dderbyn goblygiadau'r penderfyniadau hynny, nid y ni'n gymaint fydd yn dioddef ond ein plant a phlant ein plant," meddai.
Cynigir rhai awgrymiadau gan Eglwys Beulah, Rhiwbeina, Caerdydd ar gyfer eglwysi a chynulleidfaoedd eco-gyfeillgar: Dim ond berwi hynny o ddŵr sydd ei
angen
Troi gwastraff pydradwy yn wrtaith
Ail ddefnyddio bagiau plastig
Diffodd setiau teledu a chyfrifiaduron yn hytrach na defnyddio'r swits bod yn barod
Defnyddio trên nid awyren
Newid i ynni adnewyddol
Defnyddio bylbiau arbed ynni
Insiwleiddio llofftydd a thanciau dŵr
Rhannu car neu ddefnyddio c1udiant
cyhoeddus
Cael cawod yn lle baddon
Diffodd y tap wrth lanhau dannedd
Gwirfoddoli i gymryd rhan mewn menter 'werdd'
Eich awgrymiadau chi: Ebostiwch eich awgrymiadau gwyrdd chi: Clicio i ebostio
Minny Street a'r Amgylchedd
 |
 |