 |
Roedd y prynhawn yn llwyddiant ysgubol, ac o ganlyniad codwyd dros £12,000 tuag at elusennau Gofal Cancr Marie Curie ac Ymchwil Cancr.
Dymuna'r trefnwyr, Anwen Pugh a Jane Edwards, ddiolch i bawb am eu cefnogaeth drwy gymryd rhan neu noddi'r achlysur. Cyfrannwyd rhan helaeth o'r arian gan BP, Banc Barclays a Cwmni Cadbury Trebor Bassett o dan y cynllun elusen punt am bunt i unigolion a gyflogir ganddynt ac sydd wedi cymryd rhan yn y digwyddiad.
 |
 |