Mae cael dros 700 o enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth cyntaf yng Nghymru yn dweud cymaint am bwy ydyn ni fel cenedl. Mae’n wych clywed am rai o’r pethau anhygoel mae pobl yn eu gwneud ledled Cymru. Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu ac i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Mae arwyr cymunedol o bob cwr o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru Wales 2025.
Mae’r Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth wedi cael eu lansio am y tro cyntaf yng Nghymru eleni, ac maent yn dathlu ac yn cydnabod pobl sy’n gwneud pethau anhygoel ar gyfer ei gilydd a’u cymunedau lleol, drwy dynnu sylw at yr arwyr tawel hyn.
Cafwyd dros 700 o geisiadau ac mae 32 wedi cyrraedd y rhestr fer ar draws wyth categori. Ymhlith y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol mae person ifanc a redodd pellter tri marathon i godi arian i ysbyty plant, clwb bocsio sy’n cael ei ystyried yn hanfodol yn ei gymuned, a hen geffyl rasio sydd bellach yn anifail therapi.
Lucy Owen o BBC Radio Wales a Shân Cothi o BBC Radio Cymru sy’n arwain y gwobrau eleni yng Nghymru.
Wrth siarad am y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, dywedodd Lucy Owen: “Rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan yr enwebiadau rydyn ni wedi’u cael. Mae cymaint o straeon gwych am grwpiau cymunedol yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn eu hardaloedd ac am unigolion arbennig sydd wedi ymrwymo i ddod â phobl at ei gilydd, i godi arian at achosion da ac i ofalu am eraill.”
Dywedodd Shân Cothi: “Mae cael dros 700 o enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth cyntaf yng Nghymru yn dweud cymaint am bwy ydyn ni fel cenedl. Mae’n wych clywed am rai o’r pethau anhygoel mae pobl yn eu gwneud ledled Cymru. Rydyn ni wedi cael enwebiadau o Ynys Môn i Abertawe ac o Wrecsam i Sir Gaerfyrddin. Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu ac i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.”
Mae’r gwobrau’n cael eu beirniadu gan gyflwynwyr o bob rhan o’r BBC, gan gynnwys Katie Owen, Lauren Price, Gethin Jones, Owain Wyn Evans, Bronwen Lewis, Iolo Williams, Olivia Breen ac Aleighcia Scott. Cyhoeddir yr enillwyr yn seremoni Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd ar 20 Medi 2025.
I gael rhagor o wybodaeth, telerau llawn a’n hysbysiad preifatrwydd, ewch i bbc.co.uk/gwneudgwahaniaeth
Categorïau a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol
Gwobr Egnïol
Dyfernir y wobr hon i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi defnyddio gweithgarwch corfforol neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau pobl yn eu cymuned.
- Wasim Said, Clwb Bocsio Amatur Tiger Bay, Caerdydd – Mae’r clwb hwn yn cael ei ystyried yn hanfodol yn y gymuned. Mae’n rhoi strwythur, pwrpas a lle diogel i dros 150 o bobl ifanc bob wythnos.
- Robin Jones, Farm Fit Club, yr Wyddgrug – Mae Robin yn ffermwr llaeth a da byw, yn hyfforddwr ac yn hyfforddwr personol, yn rheolwr busnes, ac yn eiriolwr iechyd meddwl. Ef yw sylfaenydd menter ymarfer corff newydd Farm Fit Club sy’n fenter nid-er-elw sy’n darparu lle cynhwysol i tua 250 o bobl wneud ymarfer corff bob wythnos.
- Clwb Pêl-droed Bellevue, Wrecsam – Y clwb pêl-droed cyntaf yng Nghymru sydd wedi cofrestru mewn cynghrair ac sydd wedi’i sefydlu’n benodol ar gyfer aml-ethnigrwydd a chynhwysiant.
- Rachael Hobbs, Bangor – Mae Rachael yn gwirfoddoli ac yn rheoli grwpiau cerdded cymunedol am ddim, dosbarth nofio dŵr oer, a grŵp dringo i famau. Mae pob un yn ceisio helpu i wella iechyd meddwl.
Gwobr Anifeiliaid
Dyfernir y wobr hon naill ai i anifail rhyfeddol sy’n gwella bywydau pobl, neu i unigolyn neu grŵp o bobl sy’n gwella lles anifeiliaid.
- Mr Bojangles, Conwy – Ci therapi sydd gan dros 12 mlynedd o brofiad yw Mr Bojangles. Mae’n gweithio gyda phlant i’w helpu i oresgyn heriau cymdeithasol ac emosiynol.
- Up For An Oscar (Ozzy), Sir Benfro – Ceffyl rasio wedi ymddeol yw Ozzy. Dywedwyd nad oedd modd ei reoli, ond mae bellach yn geffyl therapi yng Nghwmni Buddiannau Cymunedol Redberth Croft, yn helpu i ddarparu cymorth i bobl agored i niwed.
- Jamie y Cob Cymreig, Powys – Mae Jamie yn geffyl therapi sy’n trawsnewid cannoedd o fywydau ifanc gyda’i natur dyner a greddfol drwy’r Game Change Project, sy’n hwyluso dysgu gyda cheffylau.
- Sion Telor y ci therapi, Bangor – Border Collie yw Sion Telor sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddosbarthiadau Dance for Parkinson’s yn Pontio. Mae’n helpu aelodau i ymlacio ac i deimlo’n fwy cyfforddus.
Gwobr Grŵp Cymunedol
Dyfernir y wobr hon igrŵp o bobl sydd wedi helpu i newid bywydau pobl eraill yn eu cymuned.
- Cyfnewidfa Gwisg Caerffili, Caerffili – Mae’n darparu gwisgoedd ysgol newydd ac ail law i filoedd o blant a theuluoedd ar draws bwrdeistref Caerffili a thu hwnt, gan ysgafnhau’r baich ariannol ar deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw.
- The Boot Room, Castell-nedd Port Talbot – Mae’r Boot Room, a sefydlwyd gan Carl Bradley, yn ceisio sicrhau nad yw chwaraewyr pêl-droed ifanc y gymuned yn cael eu rhwystro rhag cymryd rhan oherwydd diffyg cit, offer, neu esgidiau.
- Maes-G ShowZone, Bangor – Grŵp celfyddydau perfformio sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ymroddedig yw hwn. Mae’r clwb yn darparu lle diogel a chynhwysol lle mae pob plentyn, beth bynnag fo’i gefndir, ei anabledd neu ei sefyllfa ariannol, yn cael cyfle i ddisgleirio.
- Y Clwb Beicio, Rhondda Cynon Taf – Disgrifir y clwb hwn fel ‘calon’ y gymuned. Mae’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a gwasanaethau gan gynnwys clybiau celf a chrefft, gwau a sgwrsio i’r henoed, grwpiau mamau a babis, clybiau dartiau i bobl ifanc yn eu harddegau, dosbarthiadau dawns, clybiau theatr a llawer mwy.
Gwobr Codi Arian
Dyfernir y wobr hon i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi mynd yr ail filltir i godi arian at achos da.
- Katy Yeandle ac Emma Rees, Sir Gaerfyrddin – Tair oed oedd Joseph pan fu farw o ganser Niwroblastoma ym mis Rhagfyr 2021. Sefydlodd ei deulu elusen o’r enw Joseph’s Smile er cof amdano ac i godi arian i deuluoedd eraill sydd angen cymorth arbenigol. Hyd yma, maent wedi codi cyfanswm o hanner miliwn o bunnoedd, sydd wedi darparu offer meddygol a thriniaethau i blant.
- Bernie Day, Caerdydd – Bu farw merch Bernie a’i gŵr Steve o sepsis ar ôl iddi orfod cael torri rhannau o’i chorff i ffwrdd mewn ymgais i achub ei bywyd. Ers hynny, mae Bernie wedi ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o sepsis ac wedi codi arian i gyflwyno’r llwybr gofal chwe cham ar gyfer sepsis ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru.
- Billy Hillman, Caerdydd – Mae Billy yn rheolwr datblygu cymunedol a gweithiwr ieuenctid gyda dros 30 mlynedd o brofiad. Mae’n gyfrifol am godi arian ar gyfer amrywiaeth eang o ddosbarthiadau a chyfleoedd rhad ac am ddim sydd ar gael yn y gymuned, gan gynnwys clybiau coginio, ioga a myfyrio, gofod cerddoriaeth, campfa gymunedol a theithiau yn ystod gwyliau’r ysgol.
- Kaz Jefferies, Sir Gaerfyrddin – Mae Kaz wedi bod yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Pobl Fyddar Llanelli ers 10 mlynedd, gan ymgyrchu dros hawliau a chyfleoedd cyfartal i’r gymuned fyddar. Mae Kaz wedi codi arian drwy ddringo mynyddoedd, abseilio, gwibio ar wifrau gwib ac mae hi wedi eillio ei phen ddwywaith er mwyn helpu’r ganolfan.
Gwobr Werdd
Dyfernir y wobr hon i unigolyn neu grŵp o bobl sy’n gwella neu’n gwarchod eu hamgylchedd lleol.
- Martin Draper, On the Verge, Powys – Nod Martin yw creu a chynnal cynefinoedd blodau gwyllt a chynyddu ymwybyddiaeth amgylcheddol drwy addysg a dylanwad. Dechreuodd gyda syniad i beidio â thorri gwair lleiniau lleol a chreu gardd gymunedol, ac mae wedi dod â grŵp o wirfoddolwyr o’r un anian at ei gilydd ac wedi creu’r brand 1Metre Matters, sy’n fenter sy’n cael ei mabwysiadu gan gynghorau ledled Cymru bellach.
- Sharron Taylor, Tipi Fields, Sir Benfro – Mae Sharron wedi rhoi o’i hamser i lanhau malurion a gwastraff morol ar yr arfordir, sydd wedi gael effaith sylweddol a pharhaol ar ei hamgylchedd lleol a’r gymuned ehangach. Yn ogystal, mae Sharron yn trawsnewid y deunyddiau â llaw, gan roi bywyd newydd i wastraff.
- Gwirfoddolwyr Gardd Gymunedol Meadow Street, Rhondda Cynon Taf – Mae gwirfoddolwyr cymunedol wedi trawsnewid y man trefol hwn ym Mhontypridd yn ardd ac yn ganolfan sy’n cynnig lle cymdeithasol diogel, cymorth iechyd meddwl ac addysg amgylcheddol. Mae trigolion lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol yn cael budd ohono, ac mae wedi grymuso pobl o bob oed i ailgysylltu â natur, i dyfu eu bwyd eu hunain, ac i ddeall pwysigrwydd mannau gwyrdd.
- Hannah Greys, Toy Share Abergavenny, Sir Fynwy - Hannah yw sylfaenydd y grŵp hwn sy’n cynnig teganau am ddim i blant rhwng 0 a 12 oed. Mae’n ceisio annog teuluoedd i brynu llai, normaleiddio cael eitemau ail law, a lleihau effaith amgylcheddol teganau.
Gwobr Cymydog Arbennig
Dyfernir y wobr hon i unigolyn sy’n helpu i wneud ei gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddo, naill ai’n rheolaidd neu drwy un weithred garedig.
- Sharon Beck, Sir y Fflint – Mae Sharon wedi creu canolfan gymunedol yr oedd mawr ei hangen yng nghanol Bwcle. Mae’n cynnig amrywiaeth o grwpiau a dosbarthiadau cymunedol, gan gynnwys caffi wythnosol i ddynion, côr, grŵp gwau a sgwrsio, dosbarthiadau i blant, sesiynau ymarfer corff a ffeiriau crefft.
- Macy Williams, ChangeByMW, Wrecsam – Mae Macy yn byw gydag anhwylder osgoi/cyfyngu o ran bwyd (ARFID) ac mae wedi sefydlu grŵp ‘Change by MW’ ar-lein i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr ac i gynnig cefnogaeth a phositifrwydd i bobl ifanc eraill sydd â chyflyrau tebyg.
- Tim a Suzanne Silcock, Ynys Môn – Trigolion ystâd dai ar Ynys Môn sydd wedi ymrwymo i helpu preswylwyr eraill drwy drawsnewid y gofod cymunedol a threfnu gweithgareddau grŵp a phrydau bwyd dyddiol i ddod â phawb at ei gilydd.
- Eifion Williams, Ceredigion – Ers pandemig Covid, mae Eifion yn treulio ei wythnosau’n helpu ei gymdogion a thrigolion lleol i wneud eu siopau bwyd, yn mynd â nhw i apwyntiadau ac yn gwneud tasgau amrywiol eraill.
Gwobr Gwirfoddoli
Dyfernir y wobr hon i unigolyn sy’n gwneud gwahaniaeth nodedig yn y gymuned drwy roi o’i amser yn wirfoddol i helpu eraill.
- Huw Williams, She Ultra Marathons, Gwynedd – Mae Huw yn trefnu digwyddiadau marathon ultra i fenywod yn unig â’r nod o gefnogi menywod y mae canser yn effeithio arnynt. Mae Huw ei hun wedi cael diagnosis o ganser, ac mae’n credu mewn grym y gymuned a phwysigrwydd sefyll gyda’n gilydd yn wyneb adfyd.
- Tadgh Crozier, Grŵp Cymdeithasol LGBT+ Gogledd Orllewin Cymru, Gwynedd – Mae Tadgh wedi sefydlu grŵp i gysylltu pobl LGBT+ yng ngogledd Cymru sydd â dros 600 o aelodau erbyn hyn. Mae’r grŵp yn cynnig cyfarfodydd rheolaidd, achlysuron cymdeithasol a gweithgareddau awyr agored, gan gynnwys teithiau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac mae’n codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n wynebu’r gymuned LGBT+.
- Shani Stephens, Hyb Tŷ Fforest, Abertawe – Mae’r ganolfan gymunedol hon yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i bobl Abertawe, gan gynnwys banciau bwyd a chynlluniau rhannu bwyd. Mae Shani yn helpu pobl o bob rhan o Abertawe, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig, cyn-filwyr a phobl ddigartref.
- Louise Chodekka, Sir Gaerfyrddin – Mae Louise yn rhedeg grŵp cefnogi bwydo ar y fron yn Llandeilo, sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth i famau newydd a’u babis. Dechreuodd Louise y grŵp 18 mlynedd yn ôl fel mam sengl, ac mae wedi helpu llawer o deuluoedd ifanc yn ystod y cyfnod hwn.
Gwobr Arwr Ifanc
Dyfernir y wobr hon i rywun dan 16 oed sydd wedi cael effaith gadarnhaol yn y gymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol.
- Alys Davies, Sir Gaerfyrddin – Collodd Alys ei choes mewn damwain yn ei chartref pan oedd hi’n wyth oed, ond fel dawnswraig frwd, roedd hi’n benderfynol o ddechrau dawnsio eto gyda chymorth ei choes brosthetig. Mae penderfynoldeb Alys i barhau i ddawnsio bellach yn ysbrydoliaeth i bawb o’i chwmpas.
- Charlie Sheen, Conwy – Pan oedd yn 11 oed, rhedodd Charlie gyfanswm o 75 milltir a chodi miloedd o bunnoedd ar gyfer ysbyty plant Alder Hey yn Lerpwl ar ôl i’w chwaer gael triniaeth frys yno yn dilyn damwain.
- Andrei Santau, Caerdydd – Mae gan Andrei barlys yr ymennydd. Cerddodd yn annibynnol am y tro cyntaf pan oedd yn 10 oed, a flwyddyn yn ddiweddarach gosododd her iddo’i hun i ddringo 102 llawr, sy’n cyfateb i uchder yr Empire State Building, a chodi dros £1,500 ar gyfer Cerebral Palsy Cymru.
- Skye Neville, Gwynedd – Ymgyrchydd amgylcheddol 14 oed sydd wedi ysbrydoli pobl ifanc i weithredu’n gadarnhaol drwy ei hymgyrch KAPtat – Kids Against Plastic tat – ymgyrch i dynnu miliynau o ddarnau o blastig dibwys o gomics plant. Gan weithio gydag elusennau, mae ymgyrch Skye bellach wedi cael ei mabwysiadu gan ysgolion ledled y wlad.
EWL
Dilynwch am fwy
Latest from the Media Centre
All newsSearch by Tag:
- Tagged with Wales Wales