Rheolau'r Gwobrau
1. Mae Telerau Defnyddio’r BBC yn berthnasol i’r Wobr hon, ac maen nhw ar gael yn www.bbc.co.uk/terms. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, at ddibenion y Telerau Defnyddio, nid yw enwebiadau’n cael eu hystyried yn greadigaeth.
Pwy sy’n gymwys
2. Er mwyn enwebu rhywun, rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) ac yn 18 oed neu’n hŷn. Ni chewch fod yn gyflogai i’r BBC nac yn gyflogai i gwmni Grŵp y BBC, yn gyflogai i unrhyw un o’i gwmnïau cysylltiedig, yn gyflogai i drydydd partïon sy’n gysylltiedig â chynhyrchu cynnwys y BBC, yn berthynas agos i unrhyw gyflogeion o’r fath, nac yn gysylltiedig â’r gystadleuaeth wobrau yn uniongyrchol na thrwy berthynas agos.
3. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i’r enwebai:
- 3.1. wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill lle;
- 3.1.1. nad yw hyn fel arfer yn rhan o’i swydd nac yn digwydd fel arfer yn ei fan gwaith oni bai fod cymorth o’r fath yn mynd y tu hwnt i’w dasgau gwaith cyflogedig, ac os felly bydd angen esboniad gyda’ch enwebiad 250 gair (gweler cymal 8); neu
- 3.1.2. mae Gwirfoddolwr yn mynd y tu hwnt i’w weithgareddau gwirfoddol ac, os felly, bydd angen esboniad gyda’ch enwebiad 250 gair (gweler cymal 8).
- 3.2. haeddu Gwobr y BBC ym marn y sawl sy'n enwebu;
- 3.3. peidio â dwyn anfri ar y BBC (yn ôl disgresiwn y BBC yn unig);
- 3.4. cydsynio i gael ei enwebu, neu fod y rhieni wedi cydsynio i’r enwebai gael ei enwebu (os yw'n iau na 18 oed); a
- 3.5. bod o fewn ardal ddarlledu gorsaf radio’r BBC sy’n cymryd rhan (gweler y ffurflen enwebu i weld y rhestr o orsafoedd sy’n cymryd rhan).
4. Derbynnir ceisiadau ar ôl marwolaeth yn ôl disgresiwn golygyddol y BBC.
5. Lle na fydd enwebiad yn gymwys:
- 5.1. Chewch chi ddim enwebu eich hun na grŵp rydych chi wedi’i sefydlu, na grŵp rydych chi’n gadeirydd arno neu’n ymddiriedolwr iddo.
- 5.2. Nid yw gwleidyddion na’r rheini sy’n gweithio mewn swyddi ymgyrchu yn gymwys i gael eu henwebu.
- 5.2.1. Cewch enwebu cynghorwyr ar yr amod:
- 5.2.1.1. Nad ydynt wedi cael eu henwebu yn rhinwedd eu swydd fel cynghorydd, nac am waith sy’n rhan o’u rôl fel cynghorydd.
- 5.2.1.2. Nad ydynt yn ymwneud â gweithgareddau gwleidyddol nac ymgyrchu ar hyn o bryd.
- 5.3. Ni all enwebeion sydd wedi cyrraedd rhestr fer neu ennill Gwobr Gwneud Gwahaniaeth y BBC yn y gorffennol gael eu henwebu eto yn yr un categori gwobr mewn blynyddoedd olynol.
- 5.4. Unrhyw gyflogeion y BBC neu gwmni Grŵp y BBC, cyflogeion unrhyw rai o’i gwmnïau cysylltiedig, cyflogeion trydydd partïon sy’n ymwneud â chynhyrchu cynnwys y BBC.
- 5.5. Ni ellir enwebu perthnasau agos unrhyw gyflogeion o’r fath na’r rheini sy’n gysylltiedig â’r wobr yn uniongyrchol neu drwy berthynas agos.
6. Enwebu grŵp:
- 6.1. Cewch enwebu grŵp rydych chi’n rhan ohono ar yr amod nad ydych chi’n un o sylfaenwyr y grŵp, yn gadeirydd ar y grŵp, nac yn ymddiriedolwr i’r grŵp
7. Efallai y bydd rhaid i'r enwebydd ddarparu prawf o bwy ydyn nhw, eu hoedran a’u cymhwysedd. Bydd yr enwebydd angen caniatâd yr enwebai, neu rieni/gwarcheidwaid yr enwebai os yw’r enwebai dan 18 oed.
Sut i enwebu
8. Gellir enwebu ar-lein yn https://www.bbc.co.uk/gwneudgwahaniaeth. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gellir beirniadu’r enwebiad ar gyfer un o’r categorïau isod. Bydd enwebiadau’n cael eu beirniadu ar sail yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen ar-lein a chyfweliad dilynol gyda’r enwebai. Dylai’r enwebiad hefyd fod ar gyfer ardal yr orsaf radio lle mae’r enwebai wedi ei leoli. Rhaid i enwebiadau gynnwys hyd at 250 gair, ond dim mwy na hynny. Os hoffech chi ysgrifennu’r enwebiad mewn iaith heblaw Saesneg, defnyddiwch yr un ffurflen ar-lein a byddwn yn defnyddio meddalwedd cyfieithu ar-lein i'w ddarllen. Bydd eich enwebiad yn cael ei feirniadu ar sail y cyfieithiad hyd at y terfyn 250 gair yn unig.
9. Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses enwebu mor hygyrch â phosibl. Gan hynny, yn ogystal â chyflwyno eich enwebiad ysgrifenedig drwy ein ffurflen ar-lein, rydym hefyd yn croesawu enwebiadau a gyflwynir ar ffurf sain a fideo, a fydd yn cael eu trawsgrifio. Os byddai’n well gennych chi enwebu rhywun drwy ddefnyddio sain neu fideo, nodwch y canlynol:
- 9.1. Dim ond enwebiadau a gyflwynir yn Gymraeg, Saesneg, Gaeleg yr Alban neu Wyddeleg y gellir eu derbyn i’w trawsgrifio o ffurf sain neu fideo;
- 9.2. Ar gyfer y Gymraeg, Gaeleg yr Alban neu Wyddeleg, person fydd yn gwneud y trawsgrifiad. Ar gyfer enwebiadau Saesneg, byddwn yn defnyddio meddalwedd Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer trosi sain yn destun, er mwyn helpu i drawsgrifio eich sain neu fideo. Bydd eich enwebiad sain neu fideo gwreiddiol ar gael i orsaf radio berthnasol y BBC er mwyn dilysu’r trawsgrifiad; a
- 9.3. Bydd y trawsgrifiad yn cael ei gyfyngu i 250 o eiriau at ddibenion beirniadu, ac yn cael ei feirniadu ar sail y trawsgrifiad yn unig.
10. I gael rhagor o gymorth gyda hygyrchedd, cysylltwch â’ch gorsaf radio BBC.
11. Rydym yn eich annog i enwebu cynifer o unigolion teilwng ag y dymunwch. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr mai dim ond unwaith y byddwch chi’n enwebu’r un unigolyn ar gyfer pob categori. Os derbynnir mwy nag un enwebiad ar gyfer yr un unigolyn yn yr un categori gan un enwebydd, dim ond yr enwebiad cyntaf fydd yn cael ei ystyried. Bydd unrhyw gais ychwanegol neu ddyblyg gan yr un enwebydd yn cael ei dynnu o’r gystadleuaeth.
12. Os bydd gorsaf yn derbyn mwy nag un enwebiad ar gyfer un enwebai, bydd penderfyniad golygyddol yn cael ei wneud ynghylch pa enwebiad fydd yn symud ymlaen i'r broses feirniadu.
13. Bydd y broses enwebu'n agor am 4pm ddydd Llun, 23 Chwefror 2026, ac mae’n rhaid i’r enwebiadau gyrraedd erbyn 5pm ddydd Mawrth, 31 Mawrth 2026 fan bellaf. Ni dderbynnir enwebiadau a fydd yn cyrraedd ar ôl yr amser hwnnw.
- 13.1. Ar gyfer enwebiadau Ynysoedd y Sianel yn unig: Mae BBC Radio Jersey a BBC Radio Guernsey yn chwilio am un unigolyn neu grŵp i ennill Gwobr Gwneud Gwahaniaeth 2026 fesul gorsaf radio. Gallwch enwebu ar gyfer unrhyw gategori drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein, ac nid oes newidiadau i’r gofynion ar gyfer pob categori.
- 13.2. Ar gyfer Radio Nan Gaidheal yn unig: Mae Radio Nan Gaidheal yn chwilio am un unigolyn neu grŵp i ennill Gwobr Gwneud Gwahaniaeth 2026. Gallwch enwebu ar gyfer unrhyw gategori drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein, ac nid oes newidiadau i’r gofynion ar gyfer pob categori.
14. Gall tîm y BBC gysylltu â’r enwebydd, yr enwebai, (ei riant neu warcheidwad, lle bo hynny’n berthnasol) i gadarnhau’r ffeithiau a/neu ddigwyddiadau, ac a gafwyd y cydsyniad/caniatâd perthnasol. Gall y BBC rannu gwybodaeth enwebu (gan gynnwys enw’r enwebydd) a gyflwynir yn y 250 gair gydag enwebeion.
15. Ni chaniateir defnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i greu na datblygu unrhyw ran o enwebiad. Bydd hynny’n arwain at waharddiad.
Categorïau’r Gwobrau
16. Dyma’r categorïau a’r meini prawf i fod yn gymwys ar gyfer enwebu ac a ddefnyddir i ddewis yr enillwyr:
- 16.1. Gwobr Gwirfoddoli: Dyfernir i unigolyn sy’n gwneud gwahaniaeth nodedig yn y gymuned drwy roi o’i amser yn wirfoddol i helpu eraill.
- 16.2. Gwobr Grŵp Cymunedol (a gefnogir gan Morning Live): Dyfernir i grŵp o bobl sydd wedi helpu i newid bywydau pobl eraill yn eu cymuned.
- 16.3. Gwobr Codi Arian: Dyfernir i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi mynd yr ail filltir i godi arian at achos da.
- 16.4. Gwobr Arwr Ifanc: Dyfernir i unigolyn o dan 16 oed, neu grŵp o unigolion o dan 16 oed, sydd wedi cael effaith gadarnhaol yn eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol.
- 16.5. Gwobr Cymydog Arbennig: Dyfernir i unigolyn sy’n helpu i wneud ei gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddi, naill ai’n rheolaidd neu drwy un weithred garedig.
- 16.6. Gwobr Actif: Dyfernir i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi defnyddio gweithgarwch corfforol neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau pobl yn eu cymuned.
- 16.7. Gwobr Amgylcheddol: Dyfernir i unigolyn neu grŵp o bobl sy’n gwella neu’n gwarchod eu hamgylchedd lleol.
- 16.8. Gwobr Anifeiliaid: Dyfernir naill ai i anifail rhyfeddol sy’n gwella bywydau pobl, neu i unigolyn neu grŵp o bobl sy’n gwella lles anifeiliaid.
Y Broses Feirniadu
17. Bydd y tîm Gwneud Gwahaniaeth yn didoli pob cais yn gyntaf, cyn rhoi rhestr hir i’r beirniaid.
18. Ar gyfer Rownd 1, bydd panel o bedwar beirniad (yn cynnwys tri beirniad allanol ac un cynrychiolydd ar ran y BBC) ar gyfer pob ardal gorsaf radio yn adolygu’r rhestr hir, ac yn dewis rhestr fer o bedwar fesul categori o blith yr enwebiadau yn y rhanbarth hwnnw.
19. Bydd y BBC yn cysylltu â’r enwebeion hyn i drefnu cyfweliad diwydrwydd a gwybodaeth ychwanegol, na chaiff ei ddarlledu, ynghylch cael eu henwebu ar gyfer y Gwobrau. Bydd manylion y cyfweliad yn cael eu rhannu â beirniad Rownd 2, a byddant yn rhan o’r ystyriaethau terfynol wrth ddewis enillydd. Os na fydd enwebai yn cwblhau’r cyfweliad hwn, mae’r BBC yn cadw’r hawl i dynnu’r enwebai allan o'r gystadleuaeth.
20. Yn Rownd 2, bydd barnwr ar gyfer pob rhanbarth yn dewis enillydd o’r rhestr fer a ddarparwyd gan feirniaid Rownd 1.
21. Os bydd enwebiadau’n gyfartal yn ystod y broses feirniadu, cynrychiolydd o’r BBC fydd y prif feirniad ac yn gwneud y penderfyniad terfynol.
22. Ar gyfer Ynysoedd y Sianel a Radio Nan Gaidheal yn unig: Bydd yr enwebiadau o bob categori yn cael eu beirniadu gyda’i gilydd gan y panel beirniadu ar gyfer pob gorsaf, a bydd enillydd cyffredinol yn cael ei ddewis ar gyfer Gwobr Gwneud Gwahaniaeth 2026 ar gyfer pob gorsaf radio, yn hytrach nag ar gyfer pob categori unigol. Nid yw’r cyfweliad â’r enwebai a amlinellir yng nghymal 19 uchod yn berthnasol i Ynysoedd y Sianel a Radio Nan Gaidheal.
23. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i ddewis enillydd wrth gefn gan ddefnyddio’r un dull â’r broses ddethol wreiddiol. Dim ond os bydd yr enillydd a ddewiswyd yn wreiddiol yn cael ei wahardd neu ei eithrio fel arall yn ôl disgresiwn y BBC yn unig y bydd yr enillydd wrth gefn yn cael ei ystyried yn enillydd swyddogol. Ni ddatgelir pwy yw’r enillydd wrth gefn oni bai ei fod yn cael ei gadarnhau fel yr enillydd swyddogol.
24. Caiff y BBC gynnal cyfweliad darlledu ar wahân a/neu ffilmio enwebai ac enwebwyr ar gyfer fideos cyfryngau cymdeithasol. Sylwch, ni fydd y cyfweliadau fideo a sain hyn yn rhan o’r broses feirniadu – maent at ddefnydd golygyddol a hyrwyddo’r BBC yn unig.
25. Bydd pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo a gynhelir wyneb yn wyneb neu i gymryd rhan mewn rhaglen wobrwyo ar y radio neu'r teledu ar gyfer y rhanbarth lle cawsant eu henwebu yn 2026, lle bydd enillwyr pob categori yn cael eu cyhoeddi. Bydd y rheini sy'n cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo wyneb yn wyneb yn gyfrifol am yr holl gostau teithio ac ni fydd y BBC yn gyfrifol am unrhyw ffi, cost na thraul arall.
26. Mae penderfyniad y BBC o ran yr enillwyr yn derfynol, yn unol ag amod 23. Er nad oes gennym yr adnoddau i ohebu â phob unigolyn ac na fydd adborth ar rinweddau cais penodol ar gael fel arfer, ein nod yw bod mor gynhwysol â phosibl. Os oes gennych chi gwestiynau neu os cewch chi unrhyw anhawster wrth gyflwyno neu lenwi’r ffurflen, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at: makeadifference@bbc.co.uk
27. Mae’n bosibl y bydd y seremonïau gwobrwyo yn cael eu recordio, ac y bydd y sain a’r fideo yn cael eu golygu a’u defnyddio i’w darlledu ac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Efallai y bydd rhai seremonïau’n cael eu darlledu’n fyw.
28. Bydd y wobr yn cynnwys tlws. Nid oes modd cyfnewid y wobr am arian parod, ac ni ellir ei gwerthu na’i throsglwyddo o dan unrhyw amgylchiadau. Ni chaniateir gwneud unrhyw elw masnachol drwy ddefnyddio neu gyfeirio at frand y BBC, y wobr ei hun nac unrhyw elfen arall o’r broses wobrwyo hon.
29. Gall y BBC, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun, gynnig cyfleoedd neu brofiadau i’r rheini sy’n cyrraedd y rownd derfynol neu’r enillwyr y tu hwnt i’r gwobrau a nodir yn y telerau hyn. Mae unrhyw gyfleoedd a phrofiadau o’r fath yn ddewisol, does dim sicrwydd y byddant yn cael eu darparu, a gall y BBC eu hamrywio neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg.
30. At ddibenion cymal 29 a phan fydd angen, gall y BBC drosglwyddo manylion y rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i’r trydydd parti priodol er mwyn trefnu i gyflawni’r cyfleoedd neu’r profiadau dewisol hyn.
31. Mae'n rhaid i’r enwebeion a’r enwebwyr gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd cyn neu ar ôl y gwobrwyo os oes angen.
Cyffredinol
32. Os na ellir cysylltu ag enwebydd neu enwebai ar unrhyw adeg yn ystod y broses wobrwyo ar ôl i’r BBC wneud ymdrechion rhesymol i wneud hynny, neu os na ellir dilysu’r enwebiad yn rhesymol, mae’r BBC yn cadw’r hawl, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun yn unig, i wahardd yr enwebiad o’r gwobrau.
33. Gall tîm y Gwobrau gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy a gwirio cyfryngau cymdeithasol y rheini sy’n ymgeisio am y Gwobrau. Mae enwebwyr ac enwebeion yn gwarantu nad ydynt wedi gweithredu nac wedi peidio â gweithredu mewn ffordd a fydd yn dwyn anfri ar y BBC. Bydd yr wybodaeth a ganfyddir neu a allai fod wedi ei datgelu gan yr ymgeiswyr eu hunain yn llywio'r penderfyniad o ran dewis y rhestr fer. Ni fydd enwebai yn cael ei wahardd yn awtomatig ond mae’r penderfyniad yn ôl disgresiwn y BBC yn unig. Caiff gwybodaeth ei rhannu â chynghorydd polisi golygyddol y BBC ar gyfer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2026, a bydd yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac, fel pob data personol, yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd y BBC.
34. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i wneud y canlynol: (i) amrywio’r Rheolau hyn, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, amseroedd agor a chau’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau a’r seremonïau gwobrwyo; (ii) gwahardd unrhyw enwebiad sy’n torri’r rheolau, sy’n dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sy’n dwyn anfri ar y BBC; (iii) symud enwebeion i gategori arall os bydd o’r farn bod hynny’n addas, neu beidio â dyfarnu gwobr os nad yw’r enwebiadau’n cyrraedd y safon ofynnol a (iv) canslo’r gwobrau, ar unrhyw adeg, os bydd o’r farn bod angen gwneud hynny neu os bydd amgylchiadau’n codi sydd y tu hwnt i’w reolaeth.
35. Ni all y BBC, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau na/neu ei asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant technegol, data a gollir drwy ddefnyddio llwyfan e-bost trydydd parti neu ddiffyg, nac unrhyw broblem arall a allai olygu nad yw enwebiad yn cael ei gofrestru'n briodol.
36. Tybir y bydd y sawl sy'n enwebu a'r enwebeion eu hunain wedi derbyn y rheolau hyn ac wedi cytuno i ymrwymo iddynt.
37. Hyrwyddwr y gwobrau yw’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC) ac mae’r Rheolau hyn yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.
38. I’r graddau mae’n berthnasol, mae’r Gwobrau hyn yn cydymffurfio â Chod Ymddygiad y BBC ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisiau.
39. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y BBC yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o’r fath wedi’u rhagweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled ariannol, niwed i enw da neu siom.
40. I gael gwybod sut byddwn yn defnyddio eich data personol, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd yma. Os ydych chi am dynnu eich enwebiad yn ôl neu ofyn am i’ch data personol gael ei ddileu, anfonwch e-bost at makeadifference@bbc.co.uk – i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd. Gallai dileu eich data personol olygu tynnu’n ôl o’r Gwobrau.