| |
Lefel TAG Uwch
Wyt ti’n mwynhau gwaith ysgol? Yn disgwyl cael graddau TGAU da?
Am ddal ati i astudio?
Yna, efallai mai lefel A/AS yw’r dewis i ti!
Pam dewis
lefel TAG Uwch?
Mae prifysgolion
yn rhoi pwyslais mawr ar lefel A TAG. Os wyt ti’n disgwyl graddau
A*, A, B neu, mewn rhai achosion C ar lefel TGAU ac am fynd ymlaen
i brifysgol, efallai mai lefel TAG Uwch/AS fyddai’r dewis gorau
i ti.
Lefel TAG Uwch-
Ffeil ffeithiau
- Bydd yr AS newydd yn gam cyntaf tuag at Lefel TAG Uwch, yn ogystal
â bod yn gymhwyster ynddo’i hun. Os wyt ti am gymryd lefel A llawn,
bydd rhaid i ti gymryd lefel AS yn gyntaf.
- Fe gei di
ddilyn mwy o bynciau ym Mlwyddyn 1 – pedwar neu bum lefel AS efallai.
Er hyn fe fydd y nifer yn dibynnu ar sut y gwnei di yn dy arholiadau
TGAU. Fe all dy diwtoriaid a Chynghorwyr Gyrfa dy gynghori ar
y llwyth gwaith y gelli ei ddisgwyl. Mae hyn yn golygu na fydd
rhaid i ti gyfyngu dy ddewisiadau yn rhy gynnar a gelli roi cynnig
ar bynciau newydd.
- Bydd safon
yr AS newydd rhwng TGAU a'r hen lefel A i’w gwneud hi’n haws i
ti ymgyfarwyddo â gwaith ar lefel uwch.
- Bydd dy ganlyniadau
lefel AS yn cyfrif tuag at dy radd lefel A derfynol.
- Gelli gario ymlaen â rhai o dy bynciau AS, tri efallai,
ym mlwyddyn 2, i sefyll lefel A llawn.
- Gelwir y
rhan hon o’r cwrs lefel TAG Uwch yn ‘A2’ a bydd cyn galeted â’r
hen lefel A.
- Bydd
dy farciau A2 hefyd yn cyfrif tuag at dy radd lefel A derfynol.
Felly AS + A2 = lefel A!
-
Bydd lefel
AS a lefel A2 yn cael eu graddio E i A. Mae'r llywodraeth wedi
cyhoeddi'n ddiweddar eu bod yn ystyried gradd newydd sef A*
i'r disgyblion uchaf.
|
TIP
TANBAID!
|
Gellir
cymysgu lefel TAG Uwch/AS a CGCCau yn haws gyda’r cyrsiau
CGCC Uwch newydd:
Tair uned TAAU = un lefel AS
Chwe uned TAAU = un lefel TAG Uwch
Deuddeg uned TAAU = dwy lefel TAG Uwch
|
|
WYDDET
TI?
|
Fe
elli gymryd y Cymhwyster Sgiliau
Allweddol newydd mewn Cyfathrebu, Defnyddio Rhif
a TG ochr yn ochr â lefel TAG Uwch, AS neu TAAU erbyn hyn.
|
Pa
lefelau TAG Uwch/AS ddylwn i eu cymryd?
Beth
nesa ar ôl lefel TAG Uwch/AS?
|
|