Clwb IeuenctidDydi'r clwb ieuenctid ddim ond yn agor dwy noson yr wythnos!
Felly be sydd yn Maesgeirchen i blant dros 10 oed? Mae yna lawer o le gwag yn Maesgeirchen i roi pethau diddorol.
Y pethau rydan ni eisiau iddyn nhw eu rhoi yma ydy pethau fel canolfan chwaraeon, lle i fynd i lafnrholio neu barc sglefrfyrddio i'r bechgyn.
Mae'r bechgyn yn mynd i'r cwrt tennis i gael gêm o bêl-droed drwy'r amser. Os ydyn ni yn cael gweithgareddau genod a chael chwarae yn y cwrt tennis bydd yr hogiau yn dod i'n gwylio ni!
Yn yr haf mae Tŷ Cegin yn mynd â phlant o dan 12 oed am dripiau. O'r blaen roeddwn i'n mynd ond rŵan rydw i'n rhy fawr i fynd erbyn hyn. Mae Tŷ Cegin yn gwneud gwahanol weithgareddau yn Maesgeirchen a tu allan i Maesgeirchen.
Felly yn yr haf does yna ddim byd i'w wneud dim ond mynd i'r dref, sinema neu mynd i nofio!
Gawn ni rhywbeth arall i'r plant mwy ei wneud yn yr haf ac yn y gaeaf???