Ceri Cunnington, Anweledig: "Roedd gan yr Arglwydd Assherton-Smith, a oedd yn arfer byw yn y stâd, geffyl wnaeth ennill y Grand National. Ddaru o gynnal parti i'r werin gael dathlu. Wel, y tro yma mae o fel petai'r werin yn cynnal parti i bawb arall. Efallai y gwnawn ni gyrraedd ar geffylau ...
"Ond bosib y bydd yn fwy parchus na'r Sesiwn Fawr!
"Rydyn ni am berfformio cwpl o ganeuon newydd. Mae'n gyffrous iawn i'r band ddod yn ôl at ein gilydd ar ôl peidio sgwennu dim efo'n gilydd ers dros ddwy flynedd. Da ni wedi gigio, ond wedi chwarae'r hen ffefrynnau.
"Dwi wrth fy modd efo opera. 'Dwi newydd droi'n 30 ac mi brynodd mam docynnau i mi fynd i'r opera yng Nghaerdydd - roedd o'n wych."