 Y Byd - cyn y creu - am ddim
Mae'r copiau cyntaf o'r Byd - y papur dyddiol Cymraeg yn cael eu rhannu am ddim ar faes yr Eisteddfod.
Ond nid y papur yn go iawn yw hwn ond Y Byd cyn y creu fel petae - fersiwn 'hysbysebu' o'r papur yn rhoi hanes y fenter ac yn ei hyrwyddo.
Dywedodd Ned Thomas cadeirydd y cwmni sy'n gyfrifol am y fenter uchelgeisiol hon fod 100, 000 o rifynnau wedi eu cyhoeddi i gyd i'w rhannu am ddim.
Y mae yr un diwyg a'r papur arfaethedig.
O'r 100,000 bydd y fersiwn hyrwyddo tabloid, 24 tudalen, yn cael eu dosbarthu hefyd gyda rhifynnau o'r South Wales Argus, papur lleol ardal Casnewydd, a'r Tivyside Advertiser.
Ymhlith y rhai sy'n cefnogi'r fenter mae John Roberts Williams, cyn olygydd Y Cymro a Huw Edwards, a fydd yn sôn am y fenter mewn cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau am bedwar o'r gloch pnawn Iau.

|