 Archdderwydd yn colli'i Ddraig
Gall wythnos Steddfod fod yn un digon trafferthus i Archdderwydd - fel y gall Robyn Lewis dystio yr wythnos hon.
Ac ar ben popeth mae wedi colli ers dechrau'r wythnos ddolen crys - cufflink aur a gafodd yn anrheg pen-blwydd gan ei wraig.
"Mae gen i ddigonedd o ddolennau," meddai, "ond mae hon yn un y byddwn leiaf eisiau ei cholli."
Dolen o aur Cymreig wedi ei gwneud gan Rhiannon yw hi ac ar ffurf draig.
Mae'r Archdderwydd yn eithaf sicr mai ar faes yr Eisteddfod y mae wedi ei cholli - felly os daw rhywun o hyd iddi gellir ei dychwelyd iddo fo neu ddod â hi i safle BBC Cymru'r Byd ar y maes.

|