cyfathrebu - gan ddefnyddio ffurflennni arlein syml neu e-bost, cewch ddweud eich dweud, anfon storïau, lluniau neu ymholiadau at wefan Lleol.cysylltu - â'ch gwefan leol Cymru'r Byd, Lleol, Where I Live a'r we yn fyd eang.
creu - mae 'na ddewis o offer digidol yn y ganolfan i'ch helpu chi i gyfrannu at Lleol neu Where I Live. Mi gewch chi ddweud eich dweud neu, os ydych chi eisoes wedi creu stori ddigidol, beth am ddatblygu'ch sgiliau ymhellach?
Dysgu - os ydych chi'n newydd i'r we, mi fydd Cydlynydd y Ganolfan, wrth law i'ch helpu. Byddwn yn cynnig sesiynau blasu ar sgiliau amrywiol.
Gwylio - rhaglenni BBC Cymru o'r archif sy'n sôn am dde ddwyrain Cymru a straeon digidol am yr ardal a thu hwnt ar sgrin blasma.
Gwrando - ar eich hoff raglenni ar Radio Cymru a Radio Wales ar y pyst gwrando yn y stiwdio.
Cymryd rhan - mewn digwyddiadau a gweithdai BBC a dod i gyfarfod rhai o bersonoliaethau a chynhyrchwyr rhaglenni'r BBC. Bydd gwybodaeth ar gael yn y stiwdio.
Gwybodaeth - Os ydych chi am wybod mwy am raglenni, gwasanaethau a chynlluniau diweddaraf y BBC, dewch draw i'r ganolfan. Defnyddiwch linell ffôn arbennig Canolfan Wybodaeth y BBC i holi a chwyno.
Eich stiwdio chi - os ydych chi am drefnu digwyddiad ar ran mudiad neu gymdeithas yn y stiwdio neu am ddod draw i weld beth yn union sy'n digwydd yno, cysylltwch â Chydlynydd y Ganolfan i drefnu.