
 |
 |
Pwy
oedd John Roberts?
Hanes
rhyfeddol y sant o'r Traws
25 Hydref 2001
|
Dydio ddim yn enw y byddai rhywun yn disgwyl ei weld
ar sant - felly, pwy oedd John Roberts?
• Ganwyd John Roberts yn Rhiw Goch, Trawsfynydd ym 1577. Mae’n
debyg iddo gael ei fedyddio yn Eglwys St. Madryn, Trawsfynydd. Credir
iddo fyw wedyn naill ai yn y Gelli Goch neu Dyddyn Gwladys, Trawsfynydd.
• Ef oedd mab hynaf Robert ac Anna Roberts. Roedd yn frawd i
Ellis, Cadwaladr, Gwen, Margaret ac Ellen.
• Mae ei linach yn mynd yn ôl i Cunedda ac ymysg rhai o’i hynafiaid
uniongyrchol mae
Maelgwn Gwynedd,
Rhodri Fawr,
Hywel Dda,
Gruffydd ap Cynan
Owain Gwynedd.
• Ymysg ei hynafiaid anuniongyrchol mae
Dewi Sant,
Uthr Pendragon,
y Brenin Arthur,
Owain Glyndwr,
Llewelyn Fawr
Llewelyn ein Llyw Olaf.
• Mae’n debyg mai mab fferm oedd o. Ond rhaid cofio mai’r system
gyntaf-anedig oedd yn gweithredu yn y cyfnod. Rhiw Goch oedd fferm
y teulu ac fe aeth honno i ewythr John Roberts, nid i’w dad.
• Yn Rhiw Goch y magwyd Robert Lloyd, aelod seneddol cyntaf Meirionydd
a chefnder John Roberts.
• Ond mae’n amlwg fod teulu John Roberts yn eithaf cefnog gan
iddo gael y cyfle i fynd i’r coleg.
• Credir iddo gael ei addysg gynnar gan hen fynach a ddifeddiannwyd
o Abaty Cymer, wedi i Harri’r VIII gau’r mynachlogydd.
• Magwyd John Roberts yn Brotestant ac aeth i Goleg St. Ioan,
Rhydychen ar Chwefror 26, 1595, i gael ei addysg ond gadawodd a mynd
i Furnival’s Inn i astudio’r gyfraith.
• Bu'n teithio'r Cyfandir a thra ym Mharis trodd yn Babydd yn
eglwys gadeiriol Nôtre Dame.
• Aeth i Bordeaux ac wedyn i’r Coleg Saesneg yn Valladolid, Sbaen.
Wedi blwyddyn yma aeth i Abaty St. Benedict, Valladolid, ac wedyn
i wneud ei nofyddiaeth yn Abaty St.Martin yn Santiago de Compostella.
• Wedi iddo gael ei ordeinio aeth i genhadu yn Lloegr. Ef oedd
y mynach cyntaf i ddychwelyd i Loegr wedi i Harri’r VIII ddiddymu’r
mynachlogydd.
• Er bod ysbïwyr y llywodraeth yn ei ddilyn llwyddodd i lanio
yn Lloegr.
• Daliodd yr awdurdodau ef bedair neu bum gwaith - unwaith ym
mis Tachwedd 1605 yn ystod Brad y Powdr Gwn.
• Ar bob achlysur wedi cyfnod byr o garchar dedfrydwyd ef i alltudiaeth.
• Yn ystod y cyfnod pan oedd y Pla Du yn ymledu trwy Gymru a
Lloegr bu John Roberts yn gweini ar gleifion yn Lundain.
• Yn 1610 dychwelodd i Loegr am y tro olaf er ei fod yn gwybod
mai dienyddiad fydda’r gosb pe caffai ei ddal. Un diwrnod tra'r oedd
yn ei urddwisg ac yn gorffen yr Offeren aethpwyd ag ef i Newgate.
• Cafwyd ef yn euog o uchel frad ac fe’i dienyddiwyd ar Ragfyr
10, 1610, trwy ei grogi, ei ddadberfeddu a’i chwarteru. Ymgasglodd
tyrfa enfawr yn dyst i'r digwyddiad gan iddo ddod mor boblogaidd ymysg
y tlodion yn ystod cyfnod y pla.
• Er mai'r arfer oedd i ddadberfeddu person tra'r oedd yn dal
yn fyw ni chaniatawyd hynny gan y dorf yn achos John Roberts gan fod
ei garedigrwydd yn dal yn fyw yn eu cof.
• Traddodiad arall oedd bod y dadberfeddwr wedi’r weithred yn
dal y galon i fyny gan ddatgan "Wele galon bradwr!". Byddai’r dorf
wedyn yn ateb "Hir oes i’r Brenin". Ond y tro hwn roedd y dorf yn
fud.
• Roedd John Roberts yn 33 oed pan gafodd ei ddienyddio gydag
un offeiriad arall a 16 o ffelwmiaid.
• Ond nid yw’r stori’n diweddu â’i farwolaeth.
Wedi’r dienyddiad aeth y mynachod â’r corff i Douai yn Ffrainc.
Ond roedd un goes wedi disgyn i ddwylo’r gelyn. Aethpwyd â rhannau
o'i gorff i Goleg St Gregory, coleg yr oedd ef yn un o’i brif sefydlwyr
ym 1606-7. Roedd y coleg yn hyfforddi offeiriaid i’r genhadaeth Saesneg.
• Aethpwyd â rhannau eraill o’i gorff i Valladolid a Santiago
de Compostella ond diflannodd y rhain yn ystod y Chwyldro Ffrengig
a’r Chwyldro Sbaenaidd.
• Mae bys iddo yn Eglwys Gatholig Blaenau Ffestiniog ac un arall
mewn lleiandy yn Tyburn a thrydydd yn Taunton.
• Darganfuwyd un o’i freichiau’n ddiweddar ym meddiant teulu
brenhinol Sbaen. Erbyn hyn mae hwn yn Santiago de Compostella.
• Gellir gweld dau lun gwahanol o John Roberts yn Eglwys
Gatholig Gellilydan ac mae llun ohono newydd ei osod yn Valladolid.
• Yn ddiweddar gosodwyd cerflun ohono mewn eglwys ym Mhortiwgal.
• Mae dau gerflun yn Abaty Downside ger Caerfaddon, prif ganolfan
Benedictaidd Prydain. Yma hefyd ceir llawer o wybodaeth ysgrifenedig
amdano ac mae un o dai’r ysgol wedi ei enwi ar ei ôl.
• Cynhelir gwasanaeth i’w goffáu ar ddiwrnod ei ferthyrdod, Rhagfyr
10, bob yn ail flwyddyn yn Eglwys Gatholig Gellilydan ac Abaty Cymmer.
• Ddiwedd y 1950au a dechrau’r 60au daeth nifer o Wyddelod ar
bererindod i Drawsfynydd gan ymgasglu yn neuadd y pentref i’w drafod.
• Ar Orffennaf 21, 1960, dathlwyd ei fywyd yn Rhiw Goch a daeth
dros fil o Gatholigion o bob rhan o ogledd Cymru yno.
• Enwyd Eglwys Gatholig ar ei ôl yng Nghorwen ond erbyn hyn mae
wedi ei chau a'i gwerthu.
• Ar hyn o bryd mae archifydd yn Santiago de Compostella yn paratoi
bywgraffiad Sbaeneg ohono.
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|