|
Dywed Cyngor Ynys Môn nad oes ganddynt yr arian er mwyn adeiladu'r pwll nofio angenrheidiol i gynnal y Gemau.
Mae'n ofynnol cael pwll nofio chwe lôn ar gyfer y Gemau sy'n cael eu cynnal bod dwy flynedd.
Ond cadarnhaodd pwyllgor gweithredol y Cyngor nad oes ganddynt yr arian ar gyfer prosiect o'r fath.
"'Dwi'n siomedig iawn oherwydd dwi wedi bod yn rhan o'r peth ers y cychwyn," meddai'r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes.
Dwy flynedd yn ôl roedd cais gan yr Ynys i gynnal Gemau 2009 yn aflwyddiannus gydag Ynys Åland ar arfordir Y Ffindir yn ennill y bleidlais.
 |