Eich enw llawn
O ble ydych chi'n dod neu ble ydych chi'n byw?
Eich cyfeiriad e-bost*
Eich cyfeiriad post*
Fyddwch chi'n mynd i gerdded neu grwydro yn eich ardal weithiau? Os felly, lle ydy eich hoff le i fynd am dro?
Pe bai rhywun yn eich holi am le da i fynd am bryd o fwyd yn eich ardal - lle fyddech chi'n ei awgrymu a pham?
Lle ydy eich hoff le chi i fynd am noson allan? Pam?
Os ydych chi'n hoffi mynd i wrando ar gerddoriaeth fyw, lle ydy'r lle gorau i wneud hynny a pham?
Ydych chi'n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd lleol (e.e. chwaraeon, côr, clwb neu unrhyw beth arall sy'n dod â phobl at ei gilydd)? Os felly, beth ydych chi'n ei wneud?
Oes yna eiriau, dywediadau neu rigymau arbennig yn perthyn i'ch ardal chi? Os oes, beth ydyn nhw?
Oes yna rywun enwog neu adnabyddus yn dod o'ch ardal chi? Ydych chi neu aelod o'ch teulu wedi eu cyfarfod nhw erioed?
Os ydych chi'n gwybod am hanes eich ardal, oes yna gyfnod, lle neu ddigwyddiad hanesyddol pwysig sy'n dod i'ch cof?
Ydych chi'n credu mewn ysbrydion neu wedi gweld un? Fedrwch chi rannu stori leol dda efo ni?!
P'run ydy'r olygfa orau yn eich ardal yn eich barn chi?
Beth ydy'r peth gorau am fyw yn eich ardal chi?
Beth ydy eich gofidiau a'ch gobeithion am ddyfodol yr ardal?
Unrhyw beth arall hoffech chi ei ddweud am fywyd yn eich cymuned neu am y bobl sy'n byw yno neu unrhyw awgrymiadau pellach?
Diolch yn fawr iawn ichi am roi eich amser i lenwi ein holiadur! Mi fyddwn ni'n rhoi atebion pawb sy'n ei lenwi ar wefan BBC Cymru'r Byd, Lleol.
Ni allwn roi sicrwydd y byddwn yn cynnwys pob sylw, ac fe allwn olygu rhai atebion.
* Dim ond at ddibenion yr holiadur hwn y bydd y BBC yn defnyddio eich cyfeiriad post ac e-bost. Mae'r BBC yn cydymffurfio gyda Deddf Gwarchod Data 1998. Am ragor o wybodaeth, darllenwch Bolisi Preifatrwydd y BBC.