Theatr Felinfach, sydd yn ganolfan ddiwylliannol bwysig yn y dyffryn. Mae nifer o ddramau sy'n teithio Cymru yn perfformio yma. Bob blwyddyn ceir Pantomeim arbennig y Theatr, gyda phobol leol yn sgriptio ac actio..
Cofeb Simon Davies ar dir y Theatr - mae'n cynrychioli addysg, diwydiant a diwylliant. "Y tri yn cynnal fflam cefn gwlad."
Ffatri 'Sensient' Felinfach - y ffatrïoedd ar gyrion y pentref oedd un o brif gyflogwyr yr ardal yn 2005
Eglwys Ystrad Aeron
Tafarn y Vale of Aeron (Tafarn y Dyffryn) yng nghanol pentref Ystrad Aeron. Gwelir plac ar wal y dafarn yn nodi ei le ar Lwybr Dylan Thomas. Roedd y bardd yn ymwelydd cyson yma.
Tafarn Braenog Arms yn Ystrad Aeron. Daw'r enw o ystâd y Braenog gerllaw. Ystyr y 'Braenog' mae'n debyg yw Brain.
Am fwy o luniau o ddyffryn Aeron - ewch i dudalen 2