
 |
 |
Canmol
dyn steddfod
Cyfrol deyrnged i arweinydd steddfod o fri
Dydd Iau, Ionawr 31, 2002
|
• Cofio’r Adnabyddiaeth - Edward Williams, Llangefni, 1906-1992.
Golygyddd, O Arthur Williams. Gwasg Pantycelyn. £8.
ymhlith y rhjai sydd yn cofio'r adnabyddiaeth.
ymhlith darllenwyr eraill!
Adolygiad gan Glyn Evans
Mi alla i ymffrostio yn y ffaith imi rannu llwyfan efo Edward Williams,
testun y gyfrol deyrnged hon.
Ond dydi hi fawr o frôl mewn gwirionedd - achos gall ugeiniau lawer
o’m cenhedlaeth i a fagwyd ym Môn ddweud yr un peth.
I gyd wedi teimlo’r llaw gysurlon yna ar yr ysgwydd a’r gorchymyn
yna o’r tu ôl i’ch ysgwydd i’r gynulleidfa "roi pob chwarae teg iddo
fo."
Edward Williams oedd Yr arweinydd Steddfod yn ystod
y cyfnod byr a digon dilewyrch y cefais i fy ngwthio i "gystadlu ar
yr adrodd" gan ennill fawr ddim er gwaethaf pob chwarae teg a sicrhaodd
imi gan y cynulleidfaoedd.
Diolch i Yncl Ned
Gwnaeth eraill yn well ac y mae un ohonyn nhw yn un o’r 17 sydd wedi
cyfrannu atgofion i’r gyfrol hon.
Gwnaeth Annwen Jones - neu Williams fel roedd hi pan oeddwn i yn ei
hadnabod yn yr ysgol - enw iddi ei hun fel adroddwraig gan ennill
gwobrau cenedlaethol.
Mae hi’n rhoi llawer o’r diolch am ei llwyddiant i Edward Williams
neu Yncl Ned fel y daeth o iddi hi.
Mae hi hefyd yn rhoi peltan i’r Eisteddfod Genedlaethol am beidio
ag anrhydeddu’r dyn yn gynt nag y gwnaeth ac am y’i gadw cyhyd oddi
ar lwyfan y Brifwyl ac yntau yn arweinydd Eisteddfodau o gymaint hil
gerdd.
Yr oedd yn Yncl Ned a oedd yn rhan allweddol o sawl byd ifanc.
"Tra bod plant y dyddiau hyn yn cael eu magu ar y Tellytubbies,
Radio One a’r Playstation, trampio o eisteddfod i gymanfa
i gyngerdd yr oeddwn i o’m dyddiau cynharaf. Roedd ‘Lle Treigla’r
Caferi’, ‘Brad Dynrafon’ a ‘Hen Rebel Fel Fi’ yr un mor gyfarwydd
i mi ag ydi ‘International Velvet’ Catatonia i ieuenctid heddiw,"
meddai Annwen.
Adrodd heb syrcas
Byddai
Edward Williams yn dangos diddordeb arbennig mewn cystadleuwyr addawol
y byddai yn dod ar eu traws mewn eisteddfodau ac o’r dyddiau hynny
rwy’n cofio’n iawn fod cael eich derbyn i gael "gwersi gan Edward
Williams" yn arwydd ynddo’i hun y’ch bod chi’n rhywun oedd yn mynd
i wneud tipyn o farc.
Mae gan Annwen ddisgrifiad byw o wersi yng nghartref y maestro
yn Llangefni:
"Rydw i’n cofio fel y byddai Yncl Ned yn eistedd yn ôl yn y gadair
honno wrth y tân ac yn gwrando’n astud arnom yn adrodd a’i lygaid
ar gau. Byddai’n geirio’n fud hefo ni, llyfr yn ei law chwith, y sigaret
yn ddieithriad yn ei law dde, ac yntau fel arweinydd cerddorfa gyda’r
sigaret yn faton. Os agorai ei lygaid, fe wyddem yn syth nad oedd
rhywbeth yn ei blesio."
Ychwanega: "Roedd ganddo glust anhygoel at rythmau’r iaith lafar.
‘Aros funud,’ meddai . . . a phwysai ymlaen i feddwl, ei droed dde
ar garreg yr aelwyd, ei benelin ar ei ben-glin, a’i dalcen yn pwyso
ar ei fysedd tra oedd yn pendroni."
Gadael i eiriau siarad
Mae’n rhywfaint o ddileit gan bobol fel fi i ddifrio a dirmygu adrodd
- a does yna ddim amheuaeth fod mathau arbennig o adrodd yn aflwydd
cenedlaethol.
Yn ôl Annwen, nid dyma’r math o adrodd fyddai’n mynd a bryd Edward
Williams:
"Byddai’n gas ganddo unrhyw sioe neu ‘hen swn adrodd’ fel y byddai’n
galw unrhyw fursendod."
Galwai ef am gyflwyno darnau "mor syml a didwyll ag oedd bosib."
"Gadael i’r geiriau siarad drostyn’u hunain. . . . Dim cwafars. Sdim
isio rhyw hen syrcas ddiawl."
Gweini ffarmwrs
Er gwaethaf cychwyn dinod - y teulu mor dlawd y bu’n rhaid y'i anfon
i’w fagu gan ei nain ac wedyn gadael ysgol i weini ffarmwrs yn 13
oed a threulio’r rhelyw o’i oes yn siopwr - gwnaeth Edward Williams
gyfraniad aruthrol ym Môn dros y blynyddoedd.
Nid yn unig fel eisteddfotwr ar lwyfan ond y tu ôl i’r llenni hefyd
ac ym myd y ddrama.
Arweiniodd Eisteddfod Môn am 35 o flynyddoedd, Eisteddfod Llandegfan
32 gwaith, Llanddeusant 30 o weithiau heb son am ei gyfraniad fel
trefnydd ac hyfforddwr.
Yr oedd o, yng ngeiriau Derec Llwyd Morgan "yn fodel o Eisteddfodwr."
Peltan i'r Steddfod
Ac y mae John Stoddart yn son am ei afael sicr ar yr iaith - ei allu
i’w hynganu yn groyw a chlir - heb son am ei feddiant o’r priodoleddau
eraill hynny sy’n gwneud arweinydd eisteddfod da fel meddwl effro
a threfnus, mesur go dda o bwyll ac amynedd, natur siriol a hiwmor
cartrefol.
Mae Annwen Jones yn crynhoi byrdwn y cyfranwyr i gyd:
"Roedd Yncl Ned yn un o’r rhai olaf o’r werin ddiwylliedig honno na
chafodd fanteision addysg. Roedd ganddo ddoniau naturiol cynhenid
a’i gariad at y Pethe yn angerddol," meddai.
A hi sy’n holi pam y bu yr Eisteddfod Genedlaethol mor ddihid o’i
ddoniau - a chynnig ateb:
"Tybed," meddai, "pam mai dim ond unwaith y cafodd arwain a beirniadu
yn y Genedlaethol? Ond efallai nad ydi hynny’n syndod. Wedi’r cwbl,
doedd o ddim yn weinidog, athro nac yn fardd, nac yn un o fois y cyfryngau,"
meddai gan roi ei bys efallai ar yr hyn sy’n wir.
"Ond ym 1985, yn Y Rhyl, daeth ei awr fawr o’r diwedd. Am ei gyfraniad
aruthrol a’i lafur diflino yn hyfforddi ieuenctid Môn dros nifer fawr
o flynyddoedd cafodd ei gyflwyno gyda Medal Syr Thomas Parry-Williams
. . . Mae’n sicr na chafodd y fedal erioed berchennog mwy haeddiannol,"
meddai.
Yr un tinc o ganmoliaeth i’r "gwerinwr diwylliedig, dawnus" sydd yna
yn holl gyfraniadau’r gyfrol ac fel sy’n anorfod bron mewn cyfrol
o’r fath y mae yna gryn ailadrodd ac er nad yw hynny yn tynnu dim
oddi ar gyfraniad diamheuol y gwrthrych rhaid dweud fod yna beryg
i'r holl ategu barn lethu.
Rhannu cyfoeth
Serch hynny, dylai fod yn destun boddhad i bob un ohonom gael perthyn
i genedl a berodd i werinwr difreintiedig a diaddysg nid yn unig ddiwyllio
ei hun i’r graddau y gwnaeth ond a berodd iddo rannu cyfoeth y diwylliant
hwnnw ag eraill.
Golygydd y gyfrol yw mab Edward Williams ei hun a’i gyfraaniad ef
sy’n ei hagor. Mae’n cau pen y mwdwl gydag enghreifftiau o gyfansoddiadau
ysgrifenedig ei dad.
Mi fyddwn i wedi hoffi nodyn bywgraffyddol byr am y gwahanol gyfranwyr
ac mi fyddwn i hefyd, o safbwynt hwylustod, wedi hoffi gweld eu henwau
ar ddechrau eu cyfraniad yn hytrach nag ar y diwedd.
Yr unig beth arall sydd i’w ddweud yw mai cyfrol sydd o fwyaf o ddiddordeb
ym Môn ac ymhlith y rhai a brofodd ‘yr adnabyddiaeth’ yw hon gan ddeffro
ynddynt fyrdd o atgofion gyda’i detholiad hael o luniau.
Y mae’r cyfraniadau yn rhy ail-adroddus i fod o gymaint diddordeb
ymhlith eraill.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
|
 |

|