
 |
 |
Sbort
a hwyl
i fach a mawr
Y stori ddiweddaraf o Wlad y Rwla yn mynd i lawr yn dda
Dydd Iau, Mawrth 29, 2001
|
• Adolygiad gan Dinah Jones
- gyda help Ben (pump oed) a Sian (tair oed)
• Cosyn gan Angharad Tomos, Y Lolfa. £2.95.
• Pws Esgid Uchel; Hugan Fach Goch. Gwasg Carreg
Gwalch. £2.50 yr un.
•ˆStori newydd o wlad y Rwla
O’r diwedd, stori newydd o Wlad y Rwla! Y drydedd ar ddeg yng Nghyfres
Rwdlan.
Mae’n hir ddisgwyliedig yn ty ni, lle mae’r llyfrau wedi plesio’n
enfawr.
Mae Ben yn ffan mawr o’r straeon a chyda phob stori newydd mae na
gymeriad newydd i ddod i’w nabod a’r hen ffefrynnau fel y Dewin
Dwl, Rwdlan a’r Llipryn Llwyd i’w cyfarfod unwaith eto.
Mae nhw’n sbort i’w darllen - i’r rhai bach a’r rhai mawr! Ac mae’n
anodd cyfleu pa mor braf yw cael llyfr gwreiddiol Cymraeg i’r plant
yn hytrach nag addasiad neu gyfieithiad.
Ond os oedd na bleser wrth fynd ati i ddarllen am gymeriad bach newydd
yng nghreadigaeth hudolus Angharad Tomos mi roedd na ofid hefyd. A
fyddai cystal a’r lleill? A fyddai na siom?
Fel gyda gweddill y llyfrau, mae’r lluniau sy’n cyd-fynd a’r stori
yn ddeniadol o syml a’r llyfr ei hun yn fach ac yn dwt ac o faint
cyfleus i’w ddarllen yn y gwely.
Maen nhw’n llyfrau braf i’w perchen ac mae rhes ohonyn nhw ar silff
lyfrau’r plant.
Hefyd am £2.95 mae’n bris da am lyfr gwreiddiol Cymraeg - gyda llawer
o luniau a stori a "gafael" ynddi.
Dechrau da felly.
Doniolwch yn aros yn y cof
Fel yn y lleill mae na ddoniolwch yn stori Cosyn gyda hiwmor yr awdur
yn sefyll yn y cof. Yn Diwrnod Golchi mae’r Dewin Dwl yn gwisgo
ewyn y sebon golchi ar ei wyneb fel barf. A dyma fe’n mynd o gwmpas
fel hen wr o wlad y sebon.
Cafodd Ben bwl o chwerthin nes ei fod yn wan wrth inni ddarllen am
hyn ac hyd heddiw, pan mae na ddigon o fybls yn y bath, mae’n dal
i chwarae bod yn hen wr o wlad y sebon.
Mae na doreth o emosiynau yn y straeon bach cynnes yma hefyd gyda
nifer o’r cymeriadau yn ennyn hoffter.
Pan aeth Cosyn i drwbwl dyma Ben a Sian yn edrych lan ata’i gyda’u
llygaid yn fawr fel soseri, cystal a dweud, "O na, beth sy’n mynd
i ddigwydd i Cosyn?"
Fel gyda’r gweddill, dyma stori dda, sy’n cael ei hadrodd yn dda ac
sy’n creu ymateb, emosiwn a chynhesrwydd.
Mae’r plant yn poeni beth sy’n digwydd i’r cymeriadau. Mae nhw’n gallu
chwerthin, becso a mwynhau’r rhyddhad pan fo dihangfa’n dod.
Chwerthin a drygioni
Ond y chwerthin a’r drygioni sy’n taro deuddeg bob tro. Dyma awdures
sydd wedi creu byd o gymeriadau na fydd yn dyddio. Mae Catrin, sy’n
ugain oed, ac yn gwarchod y plant, yn cofio hoffi Rala Rwdins pan
oedd hi’n fach. Ac mae nhw’n dal yn ffres ac yn fyw.
Mae’r iaith yn rhwydd i’w darllen - heb fod yn nawddoglyd - gyda thoreth
o eiriau cyfoethog .
Roeddwn yn arfer addasu rhai o’r geiriau gogleddol fel efo,
dos, fo ac hitia i’r geiriau sy’n gyfarwydd i
ni fel gyda, cer, fe a phaid a becso -
yn enwedig yn llais yr awdur.
Does na ddim llawer o eiriau sy’n ddieithr i’r plant ac erbyn hyn
rwy’n dueddol o ddefnyddio mwy o’r ffurfiau gogleddol.
Mae na gyfres deledu lwyddiannus yn seiliedig ar Wlad y Rwla. Ond
dyw hi ddim wedi sarnu’r llyfrau fel sy’n gallu digwydd weithiau pan
fydd lluniau ar y sgrîn yn cymryd lle’r geiriau ar y dudalen.
Mae’r ddwy gyfres - yn y ddau gyfrwng gwahanol - yn ategu ei gilydd.
Ond beth am y cymeriad newydd - Cosyn? Pwy yw Cosyn? Mi gewch chi
ddarganfod hynny drwy ddarllen y llyfr; digon yw dweud i'r creadur
bach newydd yma lwyddo i swyno’r darllenwyr yn ty ni.
Er mai’r Dewin Dwl - yr un bach comic - yw hoff gymeriad Sian
o hyd, Cosyn oedd hoff gymeriad Ben erbyn diwedd y stori.
Ac ar ôl darllen y dudalen olaf mae’n gofyn beth sy’n digwydd i Cosyn
pan fydd yn dihuno.
Mrs Awdures, beth amdani? Beth am stori arall am Cosyn? A plis peidiwch
a’i gadael hi’n rhy hir cyn yr un nesaf!
• Pws Esgid Uchel; Hugan Fach Goch. Gwasg Carreg
Gwalch. £2.50 yr un.
Dyma ddwy stori draddodiadol yn y gyfres Straeon Plant Bach
gydag Eira Wen a tri Mochyn Bach wedi eu cyhoeddi yn barod.
Addasiadau ydyn nhw o lyfrau a gyhoeddwyd yng Ngwlad Belg.
Mae’n wastad yn fy synnu sut mae plant yn hapus i ddarllen yr un hanesion
cyfarwydd dro ar ôl tro mewn diwyg a geiriau gwahanol.
Ond unwaith eto roedd na groeso mawr i’r fersiynau diweddaraf gan
y ddau plentyn.
Mae nhw’n lyfrau clawr caled gyda thudalennau bwrdd sydd eto o faint
twt a chyfleus am bris rhesymol.
Mae’r addasiadau Cymraeg yn dderbyniol er bod y gair etifeddu yn
y frawddeg gyntaf yn Pws Esgid uchel wedi bod yn ychydig o
rwystr wrth ddechrau’r stori.
Mae’r lluniau’n lliwgar a chlir ond heb y gwreiddioldeb a geir yng
Nghyfres Rwdlan.
Hugan Fach Goch oedd y ffefryn gyda Ben a Sian.
• Beth yw eich barn chi a'r plant am y llyfrau hyn?
Ebostiwch i ddweud
|
 |

|