 |
Menna Medi Awdur Hogan Horni, Awst 2007
• Enw?
Menna Medi (Jones)
• Beth yw eich gwaith?
Rheolwr Marchnata
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Radio Cymru - cynhyrchydd, ymchwilydd.
Gohebu i'r Cymro.
• O ble'r ydych chi'n dod?
Llanuwchllyn.
• Lle'r ydych chi¹n byw yn awr?
Groeslon/Ar y ffordd!
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Gweddol.
• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Darllenwch o!
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Yr un am yr oen du a'r oen gwyn.
• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Lle'r aeth o . . .
• Pwy yw eich hoff awdur?
Neb penodol.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Pob un yn ei ffordd yn creu argraff ond 'run yn dylanwadu.
• Pwy yw eich hoff fardd?
R Williams Parry.
• Pa un yw eich hoff gerdd? Ymadawiad Arthur gan T. Gwynn Jones (detholiad!).
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Draw dros y don mae bro dirion.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Dr Shivago, Hafod Henri a Torri Gwynt.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff - Blodeuwedd.
Cas - Herod.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Yn ara' deg a phob yn dipyn mae gwthio byd i dîn gwybedyn.
• Pa un yw eich hoff air?
Sglefrolio.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Sgwennu!
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Hen ferch hwyliog.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Cnoi ewinedd
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Darganfod Bedd Tutankhamun.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Owain Glyndŵr - "Lle ti'n dod o, wa?"
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
O unrhyw le i Gwm Cynllwyd - gwlad o hud a lledrith.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Chicken Tikka Masala.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Barddoni.
• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.
• Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Iaith - a dynion gonest.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Yn y dychymyg.
• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Yn y diwedd y creodd...
Cyhoeddir Hogan Horni
gan Wasg Gomer £7.99.
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|