 |
Elin Meek Yn siarad gyda Gaynor Davies
Elin Meek yn sgwrsio gyda Gaynor Davies, Ionawr 17, 2007
Cymharodd Elin Meek y gwaith o addasu llyfrau o iaith arall i wneud croesair.
"Rwy'n ei weld i gyd fel rhyw fath o groeseiriau mawr - yr ydych yn ffeindio'ch ffordd trwy wahanol frawddegau a gobeithio wedyn y byddan nhw yn sefyll fel brawddegau Cymraeg da a bod naws y peth yn Gymreig," meddai wrth gael ei holi ar Raglen Gaynor Davies, Ionawr 17, 2007.
Eu gwneud yn Gymreig Nid yn unig mae Elin yn awdur ei hun ond y mae hefyd wedi addasu nifer fawr o lyfrau Saesneg i'r Gymraeg.
Eglurodd mai ei nod wrth drosglwyddo stori o un iaith i'r llall yw addasu'r testun yn hytrach na'i gyfieithu a bod hynny weithiau yn golygu newid lleoliadau hyd yn oed er mwyn eu gwneud yn fwy cyfarwydd i ddarllenwyr Cymraeg.
"Beth rwy'n trio'i wneud yw gosod y peth mewn cyd-destun Cymreig," meddai.
Dywedodd ei bod hefyd yn newid enwau cymeriadau i'r diben hwnnw - ond ychwanegodd nad yw hynny'n cael ei ganiatáu gyda llyfrau Roald Dahl a hynny weithiau yn peri trafferthion iddi.
Casau'r dechrau Wrth sôn am sgrifennu ei llyfrau gwreiddiol ei hun dywedodd:
"Dwi ddim yn hoffi'r dechrau - rwy'n casau dechrau a dweud y gwir," meddai.
Disgrifia hefyd sut y gall syniadau newid wrth i'r sgrifennu fynd rhagddo.
"Mae rhyw fath o egin syniad ac rwy'n cynllunio yn weddol fanwl ond wrth sgrifennu mae bylchau yn dod i'r amlwg ac yn aml iawn mae'r stori yn mynd i gyfeiriad gwahanol neu mae cymeriadau unigol yn mynd i gyfeiriad gwahanol," meddai.
Cyhoeddodd Elin Meek nifer o lyfrau gyda Gwasg Gomer yn rhai ffeithiol ac yn ffuglen.
Cliciwch i ddarllen atebion Elin Meek i holiadur Llais Llên.
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|