 |
Elgan Philip Davies Awdur nofelau i blant ac oedolion
Elgan Philip Davies yn siarad gyda Gaynor Davies, fore Llun, Ionawr 15, 2007
Er iddo fod yn ysgrifennu ers ugain mlynedd erbyn hyn dywed Elgan Philip Davies fod mynd ati i 'ddechrau' sgrifennu yn dal yn her iddo.
Yn siarad gyda Gaynor Davies ar BBC Radio Cymru dywedodd y bydd yn chwilio am bob math o fân jobsus er mwyn osgoi'r dechrau.
"Unwaith mae'r peth wedi dechrau dod mae rhywun am fynd ati i roi'r peth i lawr tra bo'r peth yn fyw - ond 'Y Cychwyn' yw y peth. Mae rhywun yn gallu gwneud unrhyw beth ond ysgrifennu - fel jobsus bach o gwmpas y tŷ," meddai.
Pan oedd ei blant ei hun tua saith neu naw oed y dechreuodd Elgan sgrifennu i ddechrau o weld fod bwlch yn y deunydd oedd ar gael.
Gwelai brinder nofelau doniol i blant er enghraifft.
Ond er yn sgrifennu gyda'i blant ei hun mewn golwg dywedodd nad oedd yn profi'r llyfrau arnyn nhw a gofyn eu barn cyn eu cyhoeddi.
"Doeddwn i ddim digon dewr i hynny," meddai.
Erbyn hyn mae yn awdur nifer o lyfrau ditectif llwyddiannus hefyd a dywed mai ei ddull o weithio ar hyn o bryd yw cyhoeddi llyfr i oedolion a llyfr i blant bob yn ail.
Gwefan Elgan Philip Davies
Darlledir rhaglen Gaynor Davies rhwng pump a saith y bore ar BBC Radio Cymru
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|