
 |
 |
Holi
awdur:
Angharad Price
Beirniad
llenyddol ac enillydd Medal Lenyddiaeth Tyddewi 2002
Dydd Iau, Awst 29, 2002 |
•
Enw:
Angharad Price
• Beth yw eich gwaith?
Cymrawd ymchwil
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Dysgu Cymraeg yn Fiena;
Gweithio yn nhhafarn yr Anglesey yng Nghaernarfon
• 0 ble’r ydych chi’n dod?
Bethel, Caernarfon
• Lle’r ydych chi’n byw yn awr?
Caerdydd
• A wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do
• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch
ychydig amdano.
Hanes teulu fy mam yng nghwm Maesglasau yw O! Tyn y Gorchudd.
Hanes dygymod â dallineb tri brawd, a chofnod o newid cymdeithasol
yn yr ugeinfed ganrif.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Nofel fer o’r enw Tania’r Tacsi.
Astudiaeth ar waith Robin Llywelyn (Llên y
Llenor).
Astudiaeth ar ryddiaith Gymraeg y 1990au, Rhwng Gwyn a Du.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Awyren Arwyn
• A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Dim ond yn fy nghof.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Gormod i’w henwi, ond maent yn cynnwys Daniel Owen, Ffiodor Dostoiefsci,
Robert Musil, Kate Roberts a Karen Blixen.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Eto, gormod i’w henwi ond maent yn cynnwys Seren Wen ar Gefndir
Gwyn (Robin
Llywelyn), Happy Moscow (Platonov), Paradwys (W.O. Roberts),
Zorba the
Greek (Kazanstakis), The Burning Plain (Rulfo), straeon
byrion Kafka a’r
Beibl Cymraeg.
• Pwy yw eich hoff fardd?
Mae fy hoff feirdd yn cynnwys Heine, T.H. Parry-Williams, Gwyneth
Lewis, a phwy bynnag sy’n sgwennu geiriau y Super Furry Animals.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Yn fwyaf diweddar rhai o gerddi R.S. Thomas yn Residues.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
A dyma ni’n dod at y mynydd,
Pawb efo’i loes yn ei law.
Twm Morys (Llys Ifor Hael)
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilmiau: Amores Perros a Taxi Driver
Hoff raglenni teledu: Talcen Caled a Tair Chwaer
• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Wini Ffinni Hadog
Cas gymeriad: Edward Vaughan, Lleifior
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y
gwir?.
Nid gwir, gwireb na dihareb
• Pa un yw eich hoff air?
Awel
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i weiddi
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Croendenau,
Aflonydd,
Creadigol,
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Llwfrdra
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf
a pham?
Yn hanesyddol, diwygwyr cymdeithasol (ar dalcen caled) fel Robert
Owen, Y Drenewydd.
Heddiw, am yr un rhesymau, rhai fel Peter Tatchell ac ymgyrchwyr gwrth-globaleiddio
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn
rhan ohono?
Sicrhau’r bleidlais i ferched; ralïau hawliau sifil yn America
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
William Salesbury a Dic Aberdaron (yr un pryd)
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Ar hyd lôn Clegir - i weld yr agos yn bell a phethau mawrion yn
fach
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Darn o bysgodyn ffres a gwydraid o win sych
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded a gweld
• Pa un yw eich hoff liw?
Lliwiau llechi
• Pa liw yw eich byd?
Mae’n dibynnu ar y tywydd
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf Eiddo
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes
• Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu
waith llenyddol arall?
Mae’n dibynnu ar yr hyn sy’n dod wedyn.
Adolygiad
o O! Tyn y Gorchudd
|
 |

|