
 |
 |
Holi:
Gwerfyl Pierce Jones
Cyfarwyddwr
Cyngor Llyfrau Cymru
Dydd Iau,Mawrth 14, 2002 |
•Enw:
Gwerfyl Pierce Jones
• Beth yw eich gwaith?
Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Darlithio yn y Brifysgol a gweinyddu ym myd y celfyddydau.
• O ble’r ydych chi’n dod yn wreiddiol?
Caergybi, Ynys Môn
• Lle’r ydych chi¹n byw yn awr?
Penrhyn-coch ger Aberystwyth
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Dyddiau difyr iawn, yn enwedig o edrych yn ôl!
• Beth ydych chi yn ei ddarllen ar hyn o bryd?
Llafur Cariad, Gareth Miles ac Atonement, Ian McEwan
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Teulu Bach Nantoer . . . o orfod dewis un.
• A fyddwch yn edrych arno’n awr?
Heb wneud ers tro byd rhag difetha’r hud.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Islwyn Ffowc Elis – am greu cynulleidfa newydd i’r nofel Gymraeg
ac am ysbrydoli to newydd o nofelwyr.
• Am pa lyfr fyddech chi’n dweud: "Mi hoffwn fod wedi sgrifennu
hwnna?"
Pob un sy’n rhoi pleser i mi.
• Pwy yw eich hoff fardd?
T. H. Parry-Williams
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Cerdd goffa Gwyn Thomas (hoff fardd arall) i Parry-Williams
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
‘Hi hen eleni y ganed.’
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Dr Zhivago
Teledu: rhaid i mi gael fy ‘fix’ nosweithiol o Newsnight!
• Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Calista yn Gymerwch chi Sigarét?
Capten Trefor yn Enoc Huws
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.
Deuparth gwaith yw ei ddechrau.
• Pa un yw eich hoff air?
Gwnaf
• Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i ganu’r piano.
• Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau?
Dal i gredu!
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Gromod o bethau i mi ddechrau rhestru!
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a
pham?
Nelson Mandela am ei weledigaeth ond yn bennaf oll am ei allu
i faddau.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Dymchwel wal Berlin. Bod yn rhan o’r cyffro a’r gobaith.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech
chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Dafydd ap Gwilym.
A minnau’n byw o fewn tafliad carreg i’w gynefin, byddwn am wybod
mwy am helyntion ei fyw – Morfudd, Dyddgu, y Bwa Bach a’r cyfan i
gyd!
• Pa un yw eich hoff daith a pham? Y daith i fyny i Sir
Fôn – oes angen dweud pam?
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bwyd môr, gwin gwyn sych a chwmni ffrindiau.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, mynychu’r theatr a’r sinema, crwydro – ond mae amser
hamdden yn brin.
• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd
• Pa liw yw eich byd?
’Wn i ddim. Ond mae’n siwr o fod yn llai du a gwyn gyda threigl
y blynyddoedd.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i amddiffyn yr henoed a’r gwan.
• Pe byddai gennych yr hawl i wahardd unrhyw lyfr pa un fyddai
o - a pham?
Gwahardd ddywedsoch chi?
Dim peryg!
• Pa mor ffyddiog ydych chi ynglyn â dyfodol llyfrau a darllen?
Yn gwbl ffyddiog.
Os yw J. K. Rowling a Philip Pullman (enillydd Gwobr Whitbread eleni,
2002) wedi profi unrhyw beth, y maent wedi profi apêl oesol stori
dda.
• Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith
llenyddol arall?
Mae’n anodd curo brawddeg agoriadol Enoc Huws, Daniel Owen!
• A’r frawddeg i gloi?
I’w barhau . . .
|
 |

|